Yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, wedi wfftio awgrymiadau bod y trafodaethau Brexit wedi bod yn anodd yn sgil rhagor o adroddiadau am bryderon Brwsel.

Dywedodd Amber Rudd ei fod hefyd yn gamgymeriad bod manylion am y swper yn Downing Street wythnos ddiwethaf wedi ymddangos yn y wasg.

Roedd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker wedi honni bod rhai yn y Deyrnas Unedig “heb ystyried” anawsterau Brexit, gyda Brwsel yn awgrymu bod y trafodaethau a chymhlethdod materion fel hawliau dinasyddion, ymhlith y meini tramgwydd.

Roedd ffynonellau o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud wrth y BBC bod y DU wedi methu deall sut mae’r undeb yn gweithio, gan arwain at bryderon o’r newydd y bydd Prydain yn methu sicrhau cytundeb masnach wedi Brexit.

“Clecs”

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi cael ei beirniadu yn dilyn adroddiadau bod Jean-Claude Juncker wedi cerdded allan o’r trafodaethau yn Downing Street wythnos ddiwethaf gan ddweud ei fod “10 gwaith yn fwy amheus nag o’r blaen.”

Ond dywedodd Amber Rudd ar Good Morning Britain ar ITV na fyddai’n gwneud sylw am adroddiadau o’r fath a bod “bron i ddwy flynedd arall o’r math yma o drafodaethau am gael eu cynnal a dw i’n credu y byddai’n gamgymeriad i’r Llywodraeth neidio ar unrhyw fath o glecs sy’n dod o hynny.”