Yr Uchel Lys yn Llundain Llun: PA
Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau y byddan nhw’n cyhoeddi eu cynlluniau drafft i fynd i’r afael â llygredd aer anghyfreithlon yr wythnos nesaf.

Daw hyn wedi i weinidogion benderfynu peidio ag apelio yn erbyn gwrthwynebiad yr Uchel Lys i’w hoedi tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog y bydd y cynlluniau’n cael eu cyhoeddi rhwng yr etholiadau lleol ddydd Iau a’r dyddiau cau gan y barnwr, sef Mai 9.

Yn ogystal, mae disgwyl i’r cynllun terfynol gael ei gyhoeddi ar Orffennaf 31.

‘Marwolaethau cynnar’

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth amgylcheddwyr ennill her gyfreithiol yn erbyn Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth Prydain oedd yn honni fod angen oedi cyhoeddi’r cynlluniau o ganlyniad i reolau’r cyfnod etholiadau.

Mae disgwyl i’r cynlluniau drafft amlygu sut i fynd i’r afael â lleihau lefelau anghyfreithiol o lygredd nitrogen deuocsid.

Mae llygredd aer yn gysylltiedig â thua 40,000 o farwolaethau cynnar yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac fe gafodd cyfyngiadau eu cyflwyno gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn 1999, ac roedd disgwyl iddyn nhw gael eu cyflawni erbyn 2010.