Theresa May (Llun: PA Wire)
Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn addo peidio â chodi cyfraddau treth ar werth os bydd yn ennill yr etholiad – ond nid yw’n gwneud ymrwymiad tebyg am dreth incwm nac yswiriant gwladol.

Roedd hyn yn un o addewidion allweddol y cyn-brif weinidog David Cameron yn etholiad cyffredinol 2015.

Ateb Theresa May ar gwestiynau am drethi ar raglen Peston on Sunday ar ITV y bore yma oedd:

“Does gennym ni ddim cynlluniau i godi lefel trethi.

“O ran trethi penodol, fyddwn ni ddim yn cynyddu Treth Ar Werth.”

Ar raglen Andrew Marr Show ar BBC1, dywedodd:

“Does arnon ni ddim eisiau gwneud cynigion penodol ar drethi oni bai fy mod i’n sicr y gallaf eu gwireddu.

“Ond fy mwriad fel llywodraeth a phrif weinidog Ceidwadol fyddai lleihau trethi ar deuluoedd sy’n gweithio.”

Pensiynau

Mae hefyd yn awgrymu y bydd yn cael gwared ar y gwarant triphlyg ar bensiynau, un arall o addewidion allweddol y Ceidwadwyr yn 2015.

Mae’r gwarant hwn yn sicrhau y bydd pensiwn y wladwriaeth yn codi’n unol â chyflogau, chwyddiant neu 2.5% bob blwyddyn – p’run bynnag yw’r uchaf.

“O dan lywodraeth Geidwadol, bydd pensiwn y wladwriaeth yn dal i godi bob blwyddyn o’r senedd nesaf,” meddai Theresa May.

“Bydd yr union ffordd y byddwn yn cyfrifo’r cynnydd hwnnw yn cael ei nodi yn y maniffesto.”