Alun Cairns (Llun oddi ar ei wefan)
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi talu teyrnged i ddau redwr o Abertawe ar ôl Marathon Llundain dros y penwythnos.
Roedd Alun Cairns ymhlith y miloedd o redwyr a gymerodd ran yn y ras.
Roedd Josh Griffiths a Matthew Rees yn y penawdau am resymau cwbl wahanol i’w gilydd, a’r ddau ohonyn nhw’n aelodau o glwb rhedeg Harriers Abertawe.
Josh Griffiths oedd yr athletwr cyntaf o wledydd Prydain dros y llinell derfyn, gan orffen y ras mewn dwy awr 14 munud a 49 eiliad, tra bod Matthew Rees wedi stopio i helpu’r rhedwr David Wyeth, oedd mewn trafferthion tua’r llinell derfyn.
O ganlyniad i amser Josh Griffiths, mae e wedi cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd.
Yn Sesiwn Cwestiynau Cymreig San Steffan, dywedodd Alun Cairns: “Ga i dalu teyrnged yn benodol i ddau o sêr Cymru dros y penwythnos?
“Harrier Abertawe Josh Griffiths, y Prydeiniwr cyntaf i groesi’r llinell derfyn ym Marathon Llundain, ond yn benodol, talu teyrnged i Matthew Rees, oedd wedi helpu cyd-redwr yng nghyfnod olaf Marathon Llundain ar y pryd.”