Theresa May (Llun: Jonathan Brady/PA Wire)
Byddai clymblaid rhwng y pleidiau yn ymgais i danseilio’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Prif Weinidog Prydain wrth iddi ymweld â Chymru heddiw.

Mae disgwyl i Theresa May rybuddio y byddai trethi’n codi a swyddi’n cael eu colli pe bai’r blaid Lafur yn dod i gytundeb â’r pleidiau llai yn yr Etholiad Cyffredinol.

Wrth gyfeirio at ganlyniad y refferendwm y llynedd dywedodd Theresa May – “deng mis ers i bleidleiswyr yng Nghymru helpu dechrau’r daith hon, mae Llafur yng Nghymru – a’u partneriaid ym Mhlaid Cymru – yn parhau’n bendant i amharu ar y canlyniad.”

‘Mwyafrif o seddi’

Mewn erthygl yn y Western Mail dywed Theresa May fod Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r cenedlaetholwyr – “Plaid Cymru yma yng Nghymru ac SNP Nicola Sturgeon yn yr Alban” – yn ceisio amharu ar y negydu i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Gall yr agwedd hon ond golygu un peth – ansicrwydd ac ansefydlogrwydd,” meddai.

Ac fe ddaw ei sylwadau ddiwrnod ers i bôl piniwn gan ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr gipio’r mwyafrif o seddi yng Nghymru.

‘Record methiant’

Mewn ymateb i sylwadau Prif Weinidog Prydain dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru, “Mae Theresa May eisiau rhoi’r sylw ar Brexit yn yr etholiad hwn er mwyn osgoi archwilio record methiant y Ceidwadwyr yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi llwgu ein gwasanaethau cyhoeddus o gyllid a gadael teuluoedd sy’n gweithio ar golled, ac mae eu trywydd anystyriol o Brexit yn wael i Gymru,” meddai.

Cyfarfod cabinet

 

Mae’n union wythnos ers i Theresa May gyhoeddi ddydd Mawrth diwethaf ei bod yn galw am etholiad brys, ac fe fydd yn cadeirio cyfarfod cabinet arall yn Llundain heddiw cyn teithio i Gymru’r prynhawn yma.