Harri VIII (o wefan Wikipedia)
Mae Jeremy Corbyn wedi cyhuddo Theresa May o ymddwyn fel Harri VIII trwy wrthod addo pleidlais seneddol ar y cytundeb terfynol ar Brexit.
Dywed arweinydd Llafur y byddai’n wrthun petai’r Prif Weinidog yn defnyddio’r fraint frenhinol i anwybyddu ASau Prydain pan fyddai seneddau yng ngwledydd eraill Ewrop yn cael pleidleisio ar y mater.
“Byddai’n rhaid i gytundeb terfynol ar Brexit ddod i’r senedd,” meddai. “All hi ddim cuddio y tu ôl i Harri VIII a dwyfol hawliau grym brenhinoedd ar hyn.”
Daw ei sylwadau ar ôl i Theresa May wrthod ymrwymo i bleidlais seneddol yn 2019 ar delerau Brexit pan gafodd ei holi mewn pwyllgor dethol yn ddiweddar.