Philip Hammond, Canghellor y Trysorlys
Arian ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth a chyllid ychwanegol ar gyfer band eang fydd rhai o’r buddion fydd Cymru yn ei weld yn dilyn datganiad yr hydref Philip Hammond ddydd Mercher.

Yn ei ddatganiad cyntaf ers dod yn Ganghellor y Trysorlys, mae disgwyl i Philip Hammond ddilyn trywydd gwahanol i’w ragflaenydd, George Osborne, gan ganolbwyntio mwy ar bolisi economaidd yn hytrach na gwleidyddiaeth.

Mae eisoes wedi dweud na fydd o’n glynu at y targed i sicrhau bod arian yn weddill yn y coffrau erbyn 2020 a’i fod eisiau mwy o hyblygrwydd er mwyn ymateb i unrhyw newidiadau yn yr economi.

Bydd mesurau i helpu teuluoedd ar dâl isel a newidiadau i bolisi tai fforddiadwy hefyd wrth galon y datganiad gyda disgwyl iddo gyhoeddi cynnydd o 4% yn yr isafswm cyflog i bobol dros 25 oed – i £7.50 yr awr o fis Ebrill 2017.

Ac fe fydd newidiadau i fudd-dal Credyd Cynhwysol yn golygu bod gweithwyr ar dal isel yn cael cadw 2c o bob punt maen nhw’n ennill.

Dyma fydd y datganiad economaidd cyntaf ers pleidlais Brexit ac mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd yn dangos lefel uwch o fenthyciadau gan arwain at dwf arafach yn yr economi.