Mae Tony Blair wedi awgrymu y gallai gamu yn ôl i fyd gwleidyddiaeth, ar ôl iddo ddweud bod perygl y gall Prydain ddod yn “wladwriaeth un blaid”.

Yn ôl y cyn-Brif Weinidog Llafur, mae’n “drasiedi” mai’r ddau ddewis i bobol yw’r Torïaid sy’n ceisio am Brexit caled a “Phlaid Lafur sydd i’r chwith eithafol”.

Dywedodd hefyd fod y Blaid Lafur, dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, â “chyfres o bolisïau sy’n mynd â ni nôl i’r Chwedegau”.

“Dw i ddim yn gwybod os oes yna rôl i mi… Mae cyfyngiad ar yr hyn dw i am ddweud am fy rôl innau ar hyn o bryd.

“Y cwbl gallaf ddweud yw dyma lle mae [byd] gwleidyddiaeth. Ydw i’n teimlo’n gryf am y peth? Ydw, dw i yn. Ydw i’n frwdfrydig iawn dros hynny? Ydw.

“Lle dw i’n mynd o fan hyn? Beth yn union dw i’n ei wneud? Mae hwnnw’n gwestiwn agored.”

Corbyn “ddim yn gweithio”

Dywedodd fod Llafur dan Jeremy Corbyn yn “bell iawn” o’r hyn mae’r rhan fwyaf o bobol gyffredin yn ei gredu.

“Y rheswm dros pam fydd y bobol hyn ddim yn apelio i’r etholaeth yw nid am eu bod nhw’n rhy i’r chwith neu eu bod yn rhy egwyddorol  – mae oherwydd eu bod nhw’n anghywir.

“Y rheswm na ddylai eu polisïau gael eu cefnogi yw nid am eu bod nhw’n rhy radical, ond am nad ydyn nhw.

“Dydyn nhw ddim yn gweithio. Maen nhw mewn gwirionedd yn fath o geidwadaeth. Dyma’r pwynt amdanyn nhw. Mae’r hyn maen nhw’n ei gynnig yn gymysgedd o ffantasi a chamsyniadau.”

Ennill y tir canol yn ôl

Fe wnaeth Llafur Newydd Tony Blair ennill tri etholiad cyffredinol drwy symud y blaid yn agosach i ganol byd gwleidyddiaeth ynysoedd Prydain.

“Mae ymateb anferth wedi bod yn erbyn y wleidyddiaeth rwy’n ei gynrychioli,” meddai Tony Blair.

“Ond dw i’n meddwl ei fod yn rhy gynnar i ddweud os yw’r canol wedi cael ei drechu. Yn y pendraw, dw i ddim yn meddwl y bydd e. Dw i’n meddwl y bydd yn llwyddo eto.”