Mae San Steffan yn annhebygol o drin Llywodraeth Cymru, a llywodraethau datganoledig eraill yng ngwledydd Prydain, fel partneriaid cyfartal yn ystod trafodaethau Brexit, yn ôl un felin drafod.

Dywedodd Akash Paun, o’r Institute for Government, y byddai wedi disgwyl y bydd Caerdydd, Caeredin a Belffast yn cael fwy o lais nag “ymgynghori ar yr ymylon”.

Ond ychwanegodd nad yw hyn yr un peth a dweud “bod pedwar partner cyfartal yn mynd i fod o gwmpas y bwrdd.” Dywedodd nad oedd sefyllfa fel hynny’n debygol.

Mae’r Alban wedi dechrau trafod â San Steffan dros y rôl y dylai gael yn ystod trafodaethau Brexit, ac wedi cwrdd â’r ddau Weinidog sydd â chyfrifoldeb o adael yr Undeb Ewropeaidd, Mike Russell a David Davis.

Rôl gwledydd o fewn Brexit

Dywedodd Akash Paun fod angen trafod rhan llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau gan nad oes “system i wneud penderfyniadau ledled y Deyrnas Unedig,” gan fod polisïau naill ai’n cael eu gwneud yn San Steffan neu wedi’u datganoli.

“Y dybiaeth i ddechrau yw bod pethau naill ai wedi’u datganoli neu maen nhw wedi’u cadw, ac felly mewn pob achos does dim angen peirianwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd,” meddai.

“Dyna’r theori, ond mae’r arfer yn fwy blêr na hynny ac mae llawer o bethau’n torri ar draws y cyfansoddiad o rannu pwerau mewn ffyrdd anniben.”

Dywedodd na allai ddychmygu y byddai Llywodraeth Prydain yn creu deddfwriaeth a fyddai’n golygu y bydd llywodraethau datganoledig yn gorfod cymryd rhan.

Mae’n fwy tebygol, meddai, y bydd gweinidogion yn dod at fargen wleidyddol dros delerau Brexit.

Caniatâd deddfwriaethol

Dywedodd hefyd y byddai’n disgwyl y bydd yn rhaid i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon roi caniatâd deddfwriaethol pan fyddan nhw’n taro bargen ar y telerau gadael.

Ond doedd e ddim yn meddwl y byddai hyn yn rhoi feto dros Brexit i Senedd yr Alban, fel y mae’r Prif Weinidog, Nicola Sturgeon, wedi’i awgrymu.