Mae llawer wedi dweud bod Senedd Cymru yn gallu bod fel ffair, ond bydd hynny’n dod yn wir ddiwedd y mis.

Ar benwythnos gwyliau’r banc bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal penwythnos hwyl haf gyda gemau carnifal, celf a chrefft a chorau Cymreig rhwng 27 a 29 Awst.

Bydd gweithgareddau’n cynnwys paentio wynebau, ardal chwarae meddal a helfa drysor arbennig y Senedd gyda gwobrau i’w hennill.

Mae’r ffair haf yn cael ei drefnu i gyd-fynd â Gŵyl yr Harbwr Caerdydd ble fydd fflyd o un ar ddeg o gychod cyflym a thros 30 o bobol sy’n sgïo jet yn cystadlu yn y Bae drwy gydol y penwythnos.

Bydd y Senedd yn agored bob dydd rhwng 10.30 a 16.30 dros y penwythnos ac yn ogystal â’r gweithgareddau, bydd ymwelwyr yn gallu cael taith o amgylch yr adeilad eiconig gan gynnwys y Siambr drafod lle bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eistedd.