Mae pump o aelodau newydd Llafur wedi ennill her gyfreithiol yn yr Uchel Lys heddiw am yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid.

Daw hyn wedi i Bwyllgor Gweithredol y Blaid Lafur benderfynu na fyddai pobol nad sydd wedi bod yn aelodau am fwy na chwe mis yn cael yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad wrth i Owen Smith a Jeremy Corbyn fynd benben â’i gilydd.

Ac mae’n debyg fod tua 130,000 o gefnogwyr Llafur wedi’u heffeithio gan y penderfyniad hwn, yn dilyn dyddiad cau i gofrestru ym mis Gorffennaf.

Roedd angen i aelodau gofrestru i bleidleisio erbyn Gorffennaf 12, ond roedd rhaid iddyn nhw fod wedi yn aelodau ers Ionawr 12 (chwe mis yn ôl.)

Ond, yn dilyn her gyfreithiol yn yr Uchel Lys heddiw, daeth y barnwr i’r casgliad y byddai “gwrthod y rhain (y pum a gyflwynodd yr her) rhag pleidleisio yn yr etholiad presennol am arweinyddiaeth, am nad ydynt wedi bod yn aelodau ers 12 Ionawr 2016 yn anghyfreithlon ac yn torri’r cytundeb.”

Enwau’r pum aelod sydd wedi ennill yr her gyfreithiol ydy Christine Evangelou, Rev Edward Leir, Hannah Fordham, Chris Granger ac aelod arall o dan ddeunaw oed/

Mae’n debyg fod gan y blaid Lafur yr hawl i’w apelio’r dyfarniad yn Llys yr Apêl, ac mae adroddiadau’n honni y gallai’r apêl gael ei gynnal yr wythnos hon.