Gelynion i'r chwith, gelynion i'r dde i Carwyn
Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu.
Hanner 60 yw 30
O’i ymddygiad di-hid ar ei bodiwm drwy’r flwyddyn syndod oedd gweld y fath emosiwn ar Carwyn. Fel petai newydd sylwi nad oedd mor boblogaidd â hynny yn yr ysgol wedi’r cyfan. A gyda neb heblaw Kirsty unig yn ymuno â’i barti i’w bleidleisio’n Brif Weinidog, pa lygedyn o obaith? Ai cip slei tua Dafydd Elis-Thomas oedd hwnna? Beth amdani wythnos nesaf, Arglwydd? Ond daeth achubiaeth posib gan UKIP, felly caiff Dafydd gadw’i gledd yn ei wain.
Pwy a saif gyda mi?
A yw Llafur oll o Chris Bryant i Siôn Jones wir mor ddiddeall o siâp a natur llywodraeth Cymru, ynteu’n cymryd nad yw’r cyhoedd twp yn deall ychwaith a gorau oll? Ac wedi’r holl gyhuddiadau am ‘neidio i’r gwely gydag UKIP’ pwy aeth at Lafur i gynnig newid eu cefnogaeth i Carwyn y diwrnod canlynol? Mark Reckless a Nathan Gill, yn rebelio’n erbyn eu harweinydd Neil Hamilton yn barod. Nid y bydd hyn yn atal pobl Llafur rhag ailadrodd y briodas honedig rhwng Plaid Cymru ac UKIP am yr hanner canrif nesaf.
A fo ben bid bont
“Fe fydden i gyd yn fodlon cefnogi Llafur a Carwyn os fydden nhw’n rhoi digon o’r hyn oedd yn ein maniffesto” Recklessiodd Mark. Erbyn y prynhawn roedd yn manylu. Byddai diddymu tollau Pont Hafren yn ddigon iddynt, medd wrth Radio Wales. Er mai consortiwm preifat sy’n ei redeg tan aiff yn ôl i ddwylo Llundain yn 2018, felly brwd am eu cefnogaeth fyddai Llafur os llwyddant i wneud hynny.
Rhyddid i’r Colonis!
Un elfen fach ymylol na sy’n derbyn sylw yw’r ffyddloniaid UKIP sy’n flin gyda’u Haelodau Cynulliad am bleidleisio i’r fath berson a’r nashi gwrth-Brydeinig Leanne Wood. Ond o leiaf maen nhw’n sylwi beth sydd wedi digwydd, ac nad Leanne Wood bleidleisiodd dros UKIP. Gellir deall eu pryder: ai megis dechrau ar y ffraterneiddio hefo’r brodorion fydd hyn? Mae’n ymddangos felly’n barod yn ôl ateb Neil i gondemniad Nigel Farage o’i frad. ‘This is the Welsh Assembly’ Saunders Lewisiodd. ‘The opinions of an MEP from the south east of England have no real relevance to us’.
Gwneud llawer heb wneud dim
Bu’n wythnos gyntaf ddistaw i Neil Hamilton, a lwyddodd, ar ben pechu Nigel Farage drwy ddatgan annibyniaeth Gymreig ei gang, i feddiannu’r arweinyddiaeth UKIP yn y Cynulliad (gan godi ei gyflog £23,000), gosod ei wraig mewn swydd tra’n sacio’r staff a benodwyd gan Nathan Gill, a gwneud i’r ‘Prif Weinidog’ lefain.
Y blogiwr dylanwadol..
Wedi’r fuddugoliaeth, elwch fu i Dafydd Elis-Thomas wrth i’w ffefryn ar gyfer Comisiynydd Heddlu’r Gogledd gael ei guro’n racs gan ymgeisydd Plaid Cymru. Un arall i roi ei farn oedd heliwr llwyddiannus Natsïaid lu’r blaid Lafur, y blogiwr Guido Fawkes. Saethodd hwnnw ei fwledi pwerus cyfiawn ar benodiad Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, a’i gloriannu fel y ‘nutjob Plaid candidate’.
Pwy blismona’r plismyn?
Alison Hernandez yw Comisiynydd Heddlu newydd Dyfnaint a Chernyw, a llongyfarchiadau iddi hithau. Ond y rheswm fod hyn yn ddifyr yw mai hi oedd asiant etholiadol Kevin Foster, un o’r Aelodau Seneddol Torïaidd hynny oedd wedi gwario’n fwy na’r hyn sy’n gyfreithlon ar ei ymgyrch. Ac fel ei asiant, hi fyddai’n gyfrifol am y gwario. Mae’r heddlu wedi datgan eu bod am ymchwilio i’r mater hynny cyn i Alison gael ei phenodi. Tebyg bydd tîm o ugain yn gweithio rownd y cloc.
Duw oriog
At y diflastod tros yr Iwerydd. Edrych fel mai bai Duw yw methiant cystadleuwyr Donald Trump yn y ras i atal Satan rhag cael ei hethol fel arlywydd. “I have always said that the Lord has a purpose for me as he has for everyone”, diwinyddodd John Kasich. Ac felly Marco Rubio wrth gamu o’r neilltu gyda “So while it is not God’s plan that I be president in 2016 or maybe ever, the fact that I’ve even come this far is evidence of how special America truly is..God is perfect. God makes no mistakes” dagreuodd.
Duw anwadal
Roedd y gweddill i gyd yn siŵr ar y dechrau. Scott Walker: “I needed to be certain that running was God’s calling – not just man’s calling. I am certain: This is God’s plan for me”. A phan gurodd Ted Cruz Iowa wel ‘To God be the Glory’..ac yn y blaen ac yn y blaen. Edrych fel bod Duw yn cefnogi mwy o ddarpar arweinwyr nag Ukip hyd yn oed.
I bob barn ei llafar
Daeth hi’n amser trafod dyfodol y darlledwr cenedlaethol yn San Steffan, a llais y dyn bach arno’n benodol. “Make sure the BBC”, Martin Luther Kingiodd y Ceidwadwr Peter Lilley, “in encouraging diversity, encourages the inclusion of the views of that greatest oppressed minority in this country – those of Conservatives.”
TYTN
Ac ar hynny, ar adeg o’r fath, mae’r ‘Wythnos’ am drio cymryd gwyliau ‘haf’. Cawn weld beth fydd ei hyd a’i lwyddiant. Tan y tro nesaf, a chymryd y bydd y fath beth.