Neil Hamilton
Nid yw Mostyn Neil Hamilton ond yn ei swydd newydd yn arwain Aelodau UKIP yn y Cynulliad ers tridiau, ond mae Nigel Farage eisoes wedi ymosod arno am ddychwelyd i’r arena gwleidyddol.

67 oed yw Neil Hamilton ac mae wedi ei ethol i gynrychioli rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru yn y Cynulliad.

Nid yw Nigel Farage, arweinydd 52 oed UKIP ar lefel Brydeinig, yn hapus fod Neil Hamilton wedi curo Nathan Gill yn y ras i fod yn arweinydd UKIP yn y Cynulliad.

Wrth drafod y ffradach ar orsaf radio LBC, dywedodd Nigel Farage: “Doeddwn i ddim yn bersonol o blaid Neil Hamilton yn dychwelyd i’r rheng flaen, ac yntau bron yn 70 oed. Ond dyna ni, mae o yno, ac mae pobl wedi pleidleisio drosto.”

Ychwanegodd Nigel Farage: “Dw i’n meddwl ei fod yn anodd dychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen ar ôl 20 mlynedd o fwlch pan ydych yr oed yna.

“Ond dyna ni, mae’n bosib y bydd yn fy synnu.”

Neil Hamilton yn taro’n ôl

Yn ôl Neil Hamilton mae’n ieuengach na Winston Churchill a Ronald Reagan pan oedden nhw ar eu hanterth.

“Fe fyddai aelod cyffredin o UKIP yn clywed y sylwadau am fy oedran. Mae gan Ukip filoedd o aelodau prysur a gweithgar sydd mewn oed,” meddai Neil Hamilton.

“Mae’n beth rhyfedd i feirniadu fy oed pan ydym yn dathlu pen-blwydd y frenhines a Sir David Attenborough yn 90 oed, dau eicon o Brydeindod.”

Mae Neil Hamilton yn teimlo fod posib iddo ddygymod yn y y Cynulliad heb lawer o drafferth.

“Os yw Attenborough yn gallu goroesi mewn jyngl sy’n llawn anifeiliaid gwyllt, yn 90 oed, dw i’n siwr y byddaf yn iawn yn y Cynulliad.”

Ychwanegodd: “Roedd Clement Attlee yn 65 yn Brif Weinidog ac fe gyflwynodd y Gwasanaeth Iechyd. Roedd Winston Churchill yn 72 pan arweiniodd Prydain i fuddugoliaeth yn erbyn y Nazis. Roedd Ronald Reagan yn 77 pan ddaeth â’r Rhyfel Oer i ben.

“Ydi Nigel Farafe yn awgrymu y galli wneud gwell tro arni na fi, am ei fod 15 mlynedd yn iau?”