85 mlynedd ers y cynllun Kindertransport, mae academydd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dateglu ochr fwy tywyll i’r stori dwymgalon o lwyddiant adeg yr Ail Ryfel Byd.

Ar Ragfyr 2, 1938, cyrhaeddodd y trên Kindertransport cyntaf dref Harwich yn Essex, gan ddod â 196 o ffoaduriaid Iddewig o Berlin.

Dros y deg mis canlynol, cafodd tua 10,000 o blant ffo Iddewig eu hachub trwy’r Kindertransport.

Doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim wedi gweld eu rhieni byth eto, gan fod llawer ohonyn nhw wedi cael eu llofruddio yn yr Holocost.

Beth ddigwyddodd go iawn?

Yn ei llyfr Newydd, Kindertransport – What Really Happened (Polity Books), mae’r Athro Andrea Hammel yn awgrymu y dylid bod yn fwy beirniadol wrth ystyried ei ganlyniadau, a hynny er bod y cynllun yn aml yn cael ei ystyried yn enghraifft gadarnhaol o agwedd ddyngarol ac anhunanol y Deyrnas Unedig tuag at ffoaduriaid yn y gorffennol.

“Yn draddodiadol, cofir am y Kindertransport fel cynllun hael a drefnwyd gan y llywodraeth, yn achubiaeth arwrol er gwaethaf yr holl anawsterau,” meddai’r academydd sy’n Gyfarwyddwr Canolfan Astudio Symudedd Pobol.

“Serch hynny, mae ymchwil helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf yn awgrymu y dylid edrych ar waddol y Kindertransport yn fwy beirniadol.

“O safbwynt y gwaith trefnu a’r ariannu, ychydig o adnoddau gafodd eu rhoi gan Lywodraeth Prydain, oedd yn ymateb i bwysau gan y cyhoedd a arswydai o weld y datblygiadau o dan y Drydedd Reich.

“Yn wir, roedd y Kindertransport yn ddibynnol ar roddion elusennol a gwirfoddolwyr.

“Hefyd, dim ond i blant y cafodd y rheolau ar gael teithebau eu llacio – gwrthododd dderbyn rhieni y plant ffo, gan y bydden nhw wedi cystadlu am swyddi ar adeg o ddiweithdra uchel ymhlith gweithwyr Prydain.

“Ni fu’r meini prawf dethol yn blaenoriaethu’r achosion mwyaf dybryd chwaith, ond yn hytrach yn ffafrio’r rhai oedd yn debygol o wneud y cyfraniad gorau i’r gymdeithas.

“Ac fe gafodd rhai plant a phobol ifanc eu rhoi mewn cartrefi anaddas, gan arwain at ganlyniadau erchyll ar adegau.

“Gallwn ddysgu llawer gan hanes o ran sut y cafodd ffoaduriaid eu trin yn hanesyddol, ac fe allai hynny wneud bywyd yn haws i blant sy’n ffoi rhag ymladd heddiw.

“Felly mae’n bwysig ein bod yn edrych yn realistig ar fethiannau yn ogystal â llwyddiannau’r Kindertransport.”