Fe fydd Cynllun Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i drigolion y sir, yn ôl yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gefnogaeth Gorfforaethol.

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r cyhoedd gyfrannu at broses fydd yn helpu i sicrhau tegwch i bawb, wrth i’r awdurdod gynllunio gwasanaethau ac adnoddau i’r dyfodol.

Mae cyfle i bobol gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor, fydd yn sail ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.

Cafodd yr Amcanion drafft eu llunio yn dilyn proses ymgysylltu drylwyr, gyda channoedd o bobol o grwpiau â nodweddion gwarchodedig yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae cyfle pellach i bobol o bob rhan o’r sir ac o bob cefndir i roi eu barn ar y cynllun drafft, a bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried cyn i’r cynllun terfynol gael ei fabwysiadu yn y flwyddyn newydd.

Mae Cabinet y Cyngor yn gofyn i bobol rannu eu meddyliau drwy lenwi holiadur byr neu anfon sylwadau ysgrifenedig at y Cyngor.

‘Perthnasol i bawb’

Yn ôl Menna Trenholme, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gefnogaeth Gorfforaethol yng Ngwynedd, mae cydraddoldeb yn berthnasol i bawb, ac mae Cynllun Cydraddoldeb yn bwysig er mwyn i bawb gael bod yn gyfartal.

“Mae gan bob un ohonom oedran, credoau, rhywioldeb a phob math o nodweddion eraill sy’n effeithio ar sut rydym yn byw ein bywydau a’r anghenion sydd gennym,” meddai.

“Mae cael Cynllun Cydraddoldeb addas yn ei le yn hanfodol er mwyn helpu tuag at hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobol.

“Mae diddymu gwahaniaethu yn flaenoriaeth i ni yng Nghyngor Gwynedd, a dyna pam dw i’n gofyn i bobol gymryd ychydig funudau i ymateb i’r ymgynghoriad, er mwyn sicrhau bod y cynllun fydd gennym yn addas a bod y materion hyn yn parhau i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth i’r Cyngor wneud ei waith i’r dyfodol.”

Grwpiau nodweddion gwarchodedig

Er mwyn llunio’r Amcanion Cydraddoldeb drafft, sy’n sail ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb, bu swyddogion y Cyngor yn ymweld â nifer o grwpiau a gweithgareddau er mwyn siarad â phobol amrywiol.

Er enghraifft, cafodd sesiynau eu cynnal gyda phobol ag anableddau a phobol ifanc, ac roedd yna bresenoldeb yn Pride Gogledd Cymru hefyd.

Mae hi bellach yn bosib darllen yr amcanion drafft, ac mae cynlluniau ar y gweill i ymweld â rhagor o grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

“Dw i’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd y cyfle hyd yma i fod yn rhan o’r broses, am y croeso dderbyniodd ein swyddogion wrth ymweld â gwahanol grwpiau,” meddai Menna Trenholme.

“Mae mewnbwn pob unigolyn wedi bod yn werthfawr tuag at lunio ein hamcanion.

“Mae cyfle nawr i bobol ddarllen drwy’r amcanion drafft a rhoi eu sylwadau.

“Mae modd gwneud hynny drwy lenwi holiadur byr, naill ai ar-lein neu ar bapur, neu os yw’n well gan bobol mae modd anfon e-bost neu lythyr at y Cyngor.

“Bydd ein swyddogion yn trefnu i ymweld â rhagor o grwpiau sy’n cynrychioli diddordeb grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

“Os ydych yn aelod o grŵp neu fudiad o’r fath ac yr hoffech gyfrannu, os gwelwch yn dda dewch i gyswllt fel gall ein swyddogion drefnu sgwrs.”


Sut i gymryd rhan

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

  • Llenwch yr holiadur ar-lein ar wefan y Cyngor
  • I dderbyn copi papur o’r holiadur, neu mewn iaith neu fformat arall, ffoniwch 01286 679708 neu ebostiwch cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru
  • Bydd copïau papur ar gael hefyd yn llyfrgelloedd a siopau Gwynedd (Pwllheli, Caernarfon a Dolgellau) o wythnos nesaf (Rhagfyr 4) ymlaen.

Llenwi’r holiadur ydi’r ffordd hawsaf i leisio barn, yn ôl y Cyngor, ond mae croeso hefyd i aelodau o’r cyhoedd anfon sylwadau drwy lythyr at:

Ymgynghoriad Amcanion Cydraddoldeb, Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd Cabinet y Cyngor yn rhoi ystyriaeth bellach i’r Amcanion Cydraddoldeb newydd yn y gwanwyn.