Mae’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn “bygwth chwalu’r Deyrnas Unedig”, yn ôl Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Cymru.
Gwnaeth Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, oedd yn Ysgrifennydd Cymru cyn ymddiswyddo fis diwethaf, yr honiad mewn erthygl yn y Telegraph.
Mae e hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i Rishi Sunak yn y ras i olynu Boris Johnson fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gan ddweud yn yr erthygl y byddai’n hapus i ymyrryd ar faterion datganoledig.
Mae’r erthygl wedi’i chyd-lofnodi gan yr Aelodau Seneddol Ceidwadol Craig Williams, Fay Jones, Jamie Wallis, Stephen Crabb, Alun Cairns a Simon Baynes, yn ogystal ag Aelodau o Senedd Cymru – Sam Rowlands, Peter Fox, Natasha Asghar, Darren Millar, Gareth Davies a Russell George.
‘Anhrefn cyfansoddiadol’
“Gyda Chytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn bygwth chwalu’r Deyrnas Unedig ac anhrefn cyfansoddiadol, mae angen arweinyddiaeth gref a llywodraeth fwyafrifol Geidwadol i symud Cymru yn ei blaen,” meddai Simon Hart yn yr erthygl.
“Llywodraeth Rishi fyddai’r llywodraeth Deyrnas Unedig fwyaf gweithgar yng Nghymru yn hanes datganoli, ac yn wahanol i Lywodraeth Lafur Cymru, bydd buddsoddi mewn trefi a chymunedau ledled Cymru.
“Y gwir amdani yw y dylai rhywun yn Aberystwyth neu Abersoch gael yr un cyfleoedd â rhywun yn Llundain, Leeds neu Fryste.
“Ni all yr etifeddiaeth o ddatganoli ac anghofio barhau.
“Mae Rishi eisiau gyrru Cymru yn ei blaen fel rhan o Deyrnas Unedig sy’n ffynnu.
“Yn ystod pandemig Covid-19, fe welodd Rishi o lygad y ffynnon sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i fynd yn groes Lywodraeth y Deyrnas Unedig lle bynnag y gallan nhw.
“Dyw hi ddim yn gyfrinach bod canran uwch o’r boblogaeth wedi marw o Covid-19 yng Nghymru nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig dan bolisïau Llywodraeth Cymru.”