“O Fôn i Fynwy, tlodi’r Ceidwadwyr a’r undeb anghyfartal sy’n ein cadw’n ôl” oedd ymateb Liz Saville Roberts i drydariad dwyieithog gan Rishi Sunak am yr hyn y byddai’r Blaid Geidwadol yn ei gynnig i Gymru o dan ei arweiniad.

Wrth dynnu sylw at ei erthygl yn Wales Online, fe wnaeth y cyn-Ganghellor ac un o’r ddau ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras i olynu Boris Johnson ddweud, “O Landudno i Leeds, ni fydd unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn cael ei adael ar ôl”.

Ond mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb chwyrn gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, sy’n ei gyhuddo o “cheap shots yn erbyn Plaid Cymru”, gan dynnu sylw hefyd at sylwadau Liz Truss am Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP, wrth iddi ddweud y dylai prif weinidog yr Alban gael ei “hanwybyddu”.

“Tra bod Truss yn ymosod ar ddemocratiaeth yr Alban, mae Sunak yn gobeithio ennill pleidleisiau gyda cheap shots yn erbyn @Plaid_Cymru,” meddai.

“Mae ein plaid yn croesawu pawb sydd eisiau adeiladu cenedl gynhwysol sy’n rhydd rhag polisïau Torïaidd ysgarol.

“O Fôn i Fynwy, tlodi’r Ceidwadwyr a’r undeb anghyfartal sy’n ein cadw’n ôl.”

‘Gweledigaeth’

Yn yr erthygl yn Wales Online, mae Rishi Sunak yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig, gan ddweud bod yna “heriau enfawr”.

“O Landudno i Leeds, ni fydd unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn cael ei adael ar ôl,” meddai ar ddechrau’r erthygl.

Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud bod “hollti yn rywbeth mae Plaid Cymru wedi ceisio bwydo arno yng Nghymru”, a’u bod nhw’n “rhagori ar brocio rhaniadau rhwng cymdogion, ffrindiau a chymunedau”.

“Gwaith pwy bynnag fydd y prif weinidog nesaf yw mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol, a dod â phawb yn ôl at ei gilydd,” meddai.

“Wedi’r cyfan, gyda’n gilydd rydym yn fwy na swm ein rhannau.

“Mae Cymru’n ran eithriadol o falch o’r Deyrnas Unedig. Mae pobol ledled Cymru – a dw i’n cytuno â nhw – yn gwybod y gallwch chi fod yn wladgarol o Gymreig a Phrydeinig ar yr un pryd, dydyn nhw ddim ar wahân oddi wrth ei gilydd.”

Ond mae’n cydnabod, ar adegau, fod pobol yn teimlo bod “San Steffan a Bae Caerdydd fydoedd ar wahân o’u bywydau bob dydd”, gan ddweud ei fod e wedi “gweithredu i helpu”.

Mae’n dweud iddo:

  • gyflwyno cynllun saib swyddi (ffyrlo) i warchod bron i 600,000 o swyddi yng Nghymru
  • cefnogi 63,000 o fusnesau trwy fenthyciadau a grantiau, a rhoi cymorth i bobol hunangyflogedig
  • helpu pobol gyda’r argyfwng costau byw, gan dynnu £400 oddi ar filiau ynni, gyda’r 30% o deuluoedd mwyaf difreintiedig yn cael £1,200 o gymorth

Mae’n addo hefyd y bydd yn dileu TAW ar filiau ynni, gan arbed £160 i bob aelwyd a rhoi cymorth iddyn nhw’n gyflym.

‘Newid ein dull o ran Cymru’

Er mwyn gwneud yr hyn mae’r Ceidwadwyr wedi’i wneud i helpu Cymru, ac er mwyn gwireddu uchelgeisiau eraill, mae Rishi Sunak yn dweud iddo fe a’r blaid orfod “newid dull”.

“Allwn ni ddim gweithredu polisi datganoli ac anghofio, gan weithredu fel mecanwaith ariannu i Lywodraeth Cymru a gobeithio y byddan nhw’n trwsio materion ar eu pennau eu hunain,” meddai.

“Mae Cymru’n haeddu gwell.”

Mae’n dweud ei fod e eisiau i Gymru “ffynnu”, ac y dylai pobol yng Nghymru “gael yr un cyfleoedd â phobol yn Llundain neu Fryste”.

Mae’n dweud bod “codi’r gwastad yn fwy na slogan”, ac yn “gyfle i wario ym mhob tref, dinas a phentref”.

Lladd ar y llywodraeth

Mae’r erthygl yn mynd yn ei blaen i ladd ar y cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd – rhywbeth mae’n ei alw’n “glymblaid”.

Mae’n tynnu sylw at y dymuniad i weld mwy o wleidyddion yn y Senedd, gan ddweud fod hyn yn “flaenoriaeth” iddyn nhw “ar adeg pan fo’r cyhoedd yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau ynni”.

“Dylen nhw ganolbwyntio mwy ar yr heriau costau byw hyn, neu’r amserau aros iechyd enfawr sy’n bla ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai wedyn.

Ar y llaw arall, mae’n dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig “yn gwneud gwaith gwych” wrth sicrhau atebolrwydd ynghylch “diffyg ffocws” y llywodraeth, a’i bod yn “bryder”  fod y drafodaeth yn digwydd yn y lle cyntaf.

Mae hefyd yn cyhuddo Llafur Cymru o “hawlio’r clod am bopeth sy’n dda yng Nghymru, a beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fydd pethau’n mynd o’i le”, ond mae’n dweud nad oes yna “unrhyw le i redeg a neb arall i’w feio” yn sgil y pecyn cymorth mwyaf erioed pan oedd e’n Ganghellor.

Wrth ymhelaethu ar atebolrwydd, mae e’n ategu’r alwad am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru gan ddweud bod “hyd yn oed Llywodraeth yr Alban” yn cymryd cyfrifoldeb.

Mae’n dweud ymhellach y byddai’n sicrhau bod mwy o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “weladwy yng Nghymru, gan ateb ymholiadau’r Senedd, ac yn cydweithio’n agosach nag erioed gyda’n Grŵp yn y Senedd”.

“Mae fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru’n ddi-hafal,” meddai wedyn.

“Dw i eisiau gyrru Cymru yn ei blaen fel rhan o Deyrnas Unedig lewyrchus.”