Mae cael “cynrychiolaeth deg rhwng merched a dynion” yn “her o hyd” yng Nghymru, medd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon.
Wrth siarad â golwg360 cyn trafodaeth ar ‘Fenywod Mewn Llywodraeth Leol’ yng nghynhadledd Plaid Cymru, dywed Siân Gwenllian fod yna “annhegwch sylfaenol” yn perthyn i’r ffaith mai dim ond 29% o gynghorwyr sir sy’n ferched.
Treuliodd Siân Gwenllian bedair blynedd yn gynghorydd sir rhwng 2012 a 2016 cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd.
“Mae’n amlwg bod gennym ni her o hyd yng Nghymru o ran cael cynrychiolaeth deg rhwng merched a dynion mewn llawer o feysydd,” meddai wrth golwg360.
“Ond o ran cynrychiolaeth, mae o’n broblem yn y fan yna hefyd.
“Mewn llywodraeth leol ar hyn o bryd, dim ond 29% o gynghorwyr sir sydd yn ferched a dydy hynna ddim yn rhoi adlewyrchiad teg o gymdeithas lle rydan ni yn hanner a hanner.
“Mae yna annhegwch sylfaenol yn y fan yna bod llais hanner y boblogaeth ddim yn dod drwodd yn ddigon cryf.
“Rydan ni wedi bod yn trio mynd i’r afael â hyn ers rhai blynyddoedd, ac wrth gwrs rydyn ni’n blaid sydd o blaid rhoi mecanweithiau mewn lle er mwyn creu sefyllfa lle mae gennym ni rifau cyfartal.
“A phan mae’n dod at ddiwygio’r Senedd, mae’r Blaid yn gryf o blaid rhoi cwotâu rhywedd yn rhan o’r ddeddfwriaeth newydd er mwyn sicrhau bod seneddau’r dyfodol yn gydradd o ran merched a dynion.
“Felly o ran llywodraeth leol mae angen dechrau cael y sgwrs ynglŷn ag oes angen mecanwaith tebyg yn y dyfodol ar gyfer creu’r cyfartaledd yna.
“Yn y cyfamser, rydan ni fel plaid yn weithgar wrth annog, hyrwyddo a rhoi hyfforddiant i ferched er mwyn trio cael mwy o ymgeiswyr yn sefyll ac mae yna lwyddiannau yn dechrau dod drwodd.
“Yn etholaeth Arfon, mae wyth o’r 11 ymgeisydd newydd sy’n sefyll yn ferched, felly rydan ni wedi mynd ati yn weddol drefnus i greu sefyllfa fel yna.
“O ran yr annhegwch bod un llais ddim cyn gryfed â’r llall, beth mae hynna yn ei olygu wedyn ydi bod materion sy’n effeithio bywydau merched yn gyffredinol ddim yn cael yr un sylw.
“Mae yna ymchwil wedi cael ei wneud yn y Senedd yn dangos mewn materion sy’n ymwneud efo plant bach a materion gofal yn gyffredinol, mai merched sy’n dueddol i yrru’r agenda ar gyfer newid.
“Felly mae yna bwynt sylfaenol ynglŷn â chael y cydraddoldeb llais yma er mwyn cael cydraddoldeb mewn polisïau sy’n effeithio’r ddwy garfan hefyd.
“Wrth gwrs maen nhw’n plethu i’w gilydd, ond heb gael y gynrychiolaeth yn deg dydy’r polisïau sy’n effeithio bywydau merched a theuluoedd er gwell ddim yn cael gymaint o bwyslais.”
‘Pethau wedi mynd yn ei ôl ers dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol’
“O ran cydraddoldeb merched, dw i’n meddwl bod pethau wedi mynd yn ei ôl ers dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol,” meddai wedyn.
“Mae’r delweddau o ferched sydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi pwyslais ar sut mae rhywun yn edrych a cheisio ffitio delwedd sy’n cael ei chreu yn aml iawn gan gwmnïau masnachol sy’n trio gwerthu cynnyrch.
“Mae hynna i gyd wedi mynd â ni am yn ôl dw i’n meddwl.
“Wedyn yr agwedd arall wrth gwrs ydi ein bod ni gyd yn fwy agored i gael ein cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae merched sydd yn llygad y cyhoedd yn darged amlwg iawn ac mae yna lot o dystiolaeth i ddangos hynny.
“Mae angen i’r cwmnïau sy’n rhedeg y cyfryngau cymdeithasol gymryd y broblem o ddifrif ac ymateb i gwynion sy’n cael eu hanfon iddyn nhw a gwneud rhywbeth penodol am misogyny sy’n digwydd ar-lein.
“Ond mae o’n broblem fwy eang yn y pendraw.
“Rydan ni’n gymdeithas batriarchaidd o hyd, rydan ni dal yn y fan yna o hyd ac mi fydda ni tan rydan ni’n newid gwraidd y ffordd mae cymdeithas yn meddwl am ddynion a merched a thra mae cymdeithas yn dal i stereoteipio’r y ffordd rydan ni’n byw ein bywydau, pa fath o waith rydan ni neud ac ati.
“Mae’r pŵer yn nwylo dynion, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r newidiadau sylfaenol, strwythurol yna sydd eu hangen ac mae o’n rhwystredig iawn i rywun fel fi sydd wedi bod yn dweud hyn er y 70au, yn ymgyrchu ers dros 40 o flynyddoedd am y newid sydd ei angen mewn cymdeithasol.
“Dyna pam dw i’n credu mor gryf bod angen rhoi mecanweithiau mewn lle er mwyn cryfhau llais merched yn y mannau priodol lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud er mwyn rhoi mwy o sylw i’r problemau yma ac i annog cymdeithas i gyd i sylweddoli bod yna broblem gyda ni o hyd.”