Rhan o Hewl Blaenau'r Cymoedd (Robin Drayton CCA 2.0)
Mae ffordd Blaenau’r Cymoedd ynghau ar ôl i ferch fach gael ei lladd mewn damwain rhwng dau gar.
Mae’n ymddangos fod y gwrthdrawiad wedi digwydd yng Nhgeunant Clydach rhwng Brynmawr a Gilwern.
Mae gwraig arall wedi cael ei chludo i Ysbyty Neuadd Nevill yn y Fenni.
Mae’r rhan yma o’r ffordd, yr A465 sy’n mynd o Gastell Nedd i’r Fenni, ar riw serth lle mae tair lôn ac, ar hyn o bryd, mae gwaith ar ran ohoni hefyd.