Llun o'r dyn sy'n cael ei amau o fwlio hiliol yng Nghaerdydd (Llun: Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig)
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi apelio am wybodaeth yn gysylltiedig ag achos o fwlio hiliol yn erbyn dynes a’i mab yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog.

Wrth i’r ddynes, 32, gerdded â’i mab, 5, tuag at allanfa’r orsaf ddydd Llun, Mai 8, fe wnaeth dyn dechrau gweiddi geiriau hiliol atyn nhw.

Gwnaeth y gweiddi barhau tan i’r ddynes adael yr orsaf, ac ar un adeg fe wnaeth y bachgen sefyll rhwng y dyn a’i fam gan bledio iddo adael nhw i fod.

Mae’n debyg dechreuodd y dyn weiddi atyn nhw ar ôl iddo glywed y fam yn siarad ei mamiaith â’i phlentyn.

“Annerbyniol ac afresymol”

“Roedd ymddygiad y dyn yma yn hollol annerbyniol ac afresymol,” meddai’r Cwnstabl Heddlu, Liam Perry. “Hoffwn gymeradwyo’r plentyn am ei ddewrder trwy wrthwynebu’r bwli.”

“Ni fydd troseddau hiliol yn cael eu derbyn ac mi fyddwn yn gweithio’n ddiflino i adnabod troseddwyr a’u dod gerbron y llysoedd.”

Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o’r dyn sy’n cael ei amau o’r drosedd a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sy’n ei adnabod, gysylltu trwy alw 0800 405 040 gan nodi’r cyfeirnod 108.