Mae Clwb Rygbi Nant Conwy wedi talu teyrnged i un o’u cyn-chwaraewyr disgleiriaf a fu farw mewn gwrthdrawiad dros y penwythnos.

Bu farw Emrys Evans brynhawn dydd Sul, Mawrth 5, mewn gwrthdrawiad cerbyd ar yr A470 ger Coed y Brenin yn Nolgellau.

Ar eu gwefan, mae’r clwb rygbi wedi’i ddisgrifio fel “newyddion erchyll” gan esbonio iddo chwarae i glwb Nant Conwy yn ystod tymor 2015/2016.

“Hefyd, bu’n gapten tîm Llanymddyfri pan fu i’r Clwb Rygbi enwog hynny ennill Cwpan Cymru rai blynyddoedd yn ôl.”

Mae’r neges yn nodi fod yr ardal yn “cydymdeimlo’n ddwys” â’r teulu gyda’r clwb wedi gohirio cyfarfod y ‘Panel Rygbi’ oedd i’w gynnal yr wythnos hon.

Apelio am dystion

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am dystion i’r digwyddiad rhwng Dolgellau a Choed-y-Brenin rhwng 1.20pm a 2pm yn ymwneud â char Renault Megane Dynamique.

“Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un welodd y car yn teithio ar hyd yr A487 rhwng Machynlleth a’r gyffordd gyda’r A470 rhwng 12.30 a 12.45 i gysylltu â ni,” meddai’r Rhingyll Emlyn Hughes.

“Mae unrhyw un oedd yn teithio ar y ffyrdd yna ddoe ac sydd â chamera car yn cael eu hannog i edrych a oedd yna gar yn cyd-fynd â’r disgrifiad uchod wedi cael ei ffilmio ganddynt,” ychwanegodd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu drwy’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein gan ddyfynnu’r cyfeirnod V031151.