Ysbyty Glan Clwyd
Mae cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi y bydd cyfarfod brys yn cael ei gynnal er mwyn trafod ail-strwythuro gwasanaeth iechyd gogledd Cymru.

Daw’r cyhoeddiad wedi cyfarfod  y cyngor heddiw, lle’r oedd disgwyl i’r cyngor gyhoeddi cynnig  o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynglŷn â newidiadau i wasanaethau iechyd y gogledd.  Ond penderfynodd y cyngor y byddai cyfarfod arall yn cael ei gynnal i geisio achub gwasanaethau yng Nghymru.

Mae pryderon gan nifer o aelodau’r cyngor am gynllun y bwrdd iechyd, sy’n cynnwys symud gwasanaethau gofal dwys ar gyfer babis newydd o Ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Cyhoeddwyd heddiw y bydd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mary Burrows, prif weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet, a chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Sally Ellis, yn cyfarfod i drafod y mater ar 26 Chwefror.

Dywedodd llywydd y cabinet, Bobby Feeley: “Rydyn ni wedi cytuno i gyfarfod hefo Mary Burrows er mwyn ceisio datgan ein pryderon am y cynlluniau.  Rydyn ni’n meddwl ei fod yn well parhau i drafod tan ein bod wedi ymchwilio i bob ffordd posib i weithredu, a byddwn yn adrodd y canlyniadau yng nghyfarfod nesaf y cyngor.”