Canolfan Ferlota Pontcanna Llun: Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi na fydd Canolfan Ferlota Pontcanna yng Nghaerdydd yn cau, yn dilyn pryderon gan drigolion lleol.
Wythnos diwethaf daeth newyddion bod Cyngor Caerdydd yn bygwth atal cyllid y ganolfan, a chau’r ysgol farchogaeth. Yn sgil y newyddion cafodd protestiadau eu cynnal gan ddefnyddwyr y ganolfan a thrigolion lleol, a oedd wedi lleisio pryderon am ddyfodol 30 o staff yr ysgol a bron i 50 o geffylau yno.
Heddiw, mae’r cyngor wedi cadarnhau na fydd y ganolfan yn cau, ond bydd dyfodol ariannol yr ysgol yn cael ei drafod mewn cyfarfod ar 28 Chwefror, gan nad yw’r cyngor yn gallu fforddio rhoi cymhorthdal bellach.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Does dim bwriad i gau’r ysgol a bydd yn aros ar agor tan fod y cyngor yn sicrhau rheolwyr allanol i redeg y safle. Mae’r gwaith yma wedi cychwyn yn barod.
“Hoffwn ei wneud yn glir nad oes bwriad i werthu tir y ganolfan er mwyn ei ddatblygu, a bydd Ysgol Ferlota Caerdydd yn parhau yn ei safle presennol.”