Mae menter newydd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru yn annog pobol ifanc i droi at lyfr a darllen, drwy greu straeon sydd ond 260 gair o hyd.

Mae cystadleuaeth Stori Sydyn 20×13 ar agored i awduron ifanc yng Nghymru i ysgrifennu darn creadigol byr.  Gall fod ar unrhyw bwnc ac yn y Gymraeg neu’r Saesneg.  Yr unig amod yw bod o leiaf 20 llinell i bob stori, ac 13 gair ym mhob llinell, digon i lenwi un tudalen o lyfr.

Bwriad y cynllun yw denu pobol ifanc i ddarllen un tudalen ar y tro, heb boeni am benodau neu lyfrau cyfan.  Fel rhan o’r fenter, mae Stori Sydyn wedi cyhoeddi 7 teitl newydd gan awduron enwog, i ysbrydoli darllenwyr ifanc.

Mae 4 llyfr Cymraeg, a 3 Saesneg yn y casgliad, gan awduron fel John Meurig Edwards, Emlyn Rees a’r chwaraewr Rygbi, Dan Lydiate.

Dywedodd Angharad Tomos, o Gyngor Llyfrau Cymru bod gobaith bydd y cynllun newydd yn ysbrydoli pobol ifanc.

“Rydym yn gobeithio y bydd cystadleuaeth ysgrifennu 20×13 yn ysbrydoli nifer o bobl ifanc hyd a lled Cymru, nid yn unig i feddwl yn greadigol, ond hefyd i fachu’r darllenwyr o fewn 260 gair os gallant, sef cyfanswm 20×13. Er hyn, rydym yn fodlon derbyn darnau hirach sy’n 520, 780, 1,040 o eiriau ac yn y blaen, cyn belled â’u bod nhw’n lluosrifau union o 260, sydd ddim yn dasg mor hawdd ag y mae’n swnio!”

Bydd gwerth £100 o docynnau llyfr ar gael i enillydd y gystadleuaeth, ond gobaith Angharad Tomos yw bod y gystadleuaeth yn ysgogi nifer fawr o bobol i droi at lyfrau.

“Wrth gymryd agwedd cam wrth gam, tudalen wrth dudalen, rydym yn gobeithio y gallwn helpu i oresgyn unrhyw faterion hyder sy’n bodoli a dangos gall darllen fod yn hwyl ac yn rhywbeth gall yr holl deulu ei fwynhau.”