Mae cangen Cymru o Gymdeithas Feddygol Prydain am leisio eu gwrthwynebiad i newid y ddeddf gwrth-ysmygu i ganiatáu ysmygu ar ffilm.

Mae Llywodraeth Cymru am ddiwygio’r gwaharddiad presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus ac mae’n dadlau y gallai cynyrchiadau teledu a ffilm symud i Loegr lle mae eithriad gwaharddiad ysmygu o’r fath eisoes yn bodoli.

Bydd Dr Tony Calland o Gymdeithas Feddygol Prydain yn rhoi tystiolaeth o flaen pwyllgor menter a busnes a phwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol Cynulliad Cymru sydd wedi sefydlu is-bwyllgor ar y cyd i edrych ar y mater cyn i ACau bleidleisio ar y cynlluniau yn y gwanwyn.

Dywedodd Dr Calland: “Roedden ni’n falch iawn pan wnaeth Llywodraeth Cymru, ac yna Llywodraeth y DU, gyflwyno’r gwaharddiad ar ysmygu.

“Mae’r gwaharddiad wedi bod yn arbennig o lwyddiannus drwy leihau nifer y bobl sy’n ysmygu a thrwy helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi.

“Mae’r rhain yn seiliedig ar dystiolaeth o effeithiau’r gwaharddiad ac nid oes mymryn o ddadl i gefnogi llacio’r gwaharddiad. Gall actorion ar lwyfan neu ar set ffilm ddefnyddio sigaréts artiffisial.”

“Mae’r gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus wedi bod yn un o’r polisïau iechyd cyhoeddus mwyaf llwyddiannus ac nid oes unrhyw dystiolaeth sy’n caniatáu iddo gael ei newid na’i danseilio.”

Stori Casualty

Wythnos diwethaf, bu’n rhaid i BBC Cymru – sy’n cefnogi’r newid – ymddiheuro wedi iddyn nhw orfod cywiro eu tystiolaeth i’r pwyllgor.

Dywedodd pennaeth cynyrchiadau’r BBC, Clare Hudson, bod stori am beryglon ysmygu ar Casualty wedi cael ei neilltuo oherwydd bod y system bresennol yn golygu bod ffilmio golygfeydd o’r fath yn rhy anodd.

Diwrnod yn ddiweddarach, bu’n rhaid i BBC Cymru dynnu’r honiad yn ol a gofyn i’r is-bwyllgor am ddiwygio’r dystiolaeth. Fe ddaeth i’r amlwg  bod ffordd wahanol i ffilmio’r olygfa wedi cael ei ganfod a bod y staff cynhyrchu wedi tynnu sylw at hyn yn dilyn ymddangosiad Clare Hudson.