Mae ambiwlansys Cymru wedi methu â chwrdd â’u targed ar gyfer ymateb i alwadau brys am y seithfed mis yn olynol yn ystod Rhagfyr 2012.

Yn ôl adroddiad yr Ystadegau Gwladol heddiw cafodd 56.1% o alwadau brys ble roedd bywyd mewn peryg ymweliad gan yr ambiwlans o fewn 8 munud, sy’n brin o’r targed o 65%.

Yn Rhondda Cynon Tâf oedd yr ymateb arafaf – 43.5% o fewn wyth munud – a Wrecsam oedd yr awdurdod lleol â’r ymatebion mwyaf prydlon, ble roedd 72% o fewn wyth munud. Ambiwlansys o fewn Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda wnaeth berfformio orau ond roedden nhw dal yn brin o’r targed o 65%.

Rhaglen foderneiddio

Yn ôl yr adroddiad roedd 1,180 yn fwy o alwadau brys Categori A – sef y mwyaf difrifol – yn ystod Rhagfyr 2012 nag yn Rhagfyr 2011. Roedd llifogydd mis Tachwedd hefyd wedi cael effaith ar allu’r ambiwlansys i gyrraedd rhai ardaloedd medd yr adroddiad.

Dywedodd llefarydd o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod achosion o dostrwydd megis ffliw a salwch stumog wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf a bod nifer y galwadau yn cynyddu.

“Rydym am sicrhau’r cyhoedd fod yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans yn benderfynol o gyflawni gwelliannau ei rhaglen foderneiddio ac y byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill i wella ein gwasanaethau i bobol Cymru,” meddai’r llefarydd.

Gwrthbleidiau’n beirniadu

“Mae gennym ni’r amserau ymateb arafaf yn y Deyrnas Unedig gyfan,” meddai Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Nid yw pobol Cymru yn cael y gwasanaeth maen nhw’n ei haeddu. Un rheswm am y ffigurau diflas yma yw methiant y Gweinidogion Llafur i sefydlu pa adnoddau sydd eu hangen i gwrdd â’r galw cynyddol am wasanaethau ambiwlans.

“Tan nawr mae Cymru yn cyllido gwasanaeth ambiwlans i gwrdd â tharged o 65% o fewn wyth munud tra yn Lloegr maen nhw’n cael cyllid i gyflawni 75%.”

Dywedodd Kirsty Williams nad oes angen “cyfnod arall o ad-drefnu’r gwasanaeth” a darnio’r gwasanaeth a bod angen cadw gweithwyr ambiwlans arbenigol o fewn y gwasanaeth yng Nghymru.

Dywedodd Darren Millar o’r Ceidwadwyr ei bod hi’n “hynod ofidus fod perfformiad ambiwlansys wedi cwympo’n sylweddol.”

“Mae cleifion Cymru yn haeddu gwell a sicrwydd nad yw toriadau iechyd Llafur yn cael effaith ar berfformiad ambiwlansys,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd.

“Mae angen i arolwg y gwasanaeth gael ei gwblhau cyn gynted â phosib er mwyn cyflwyno gwelliannau yn syth.”