Mae un person wedi marw a 15 o bobl wedi’u hanafu yn dilyn damwain rhwng bws a char yn ardal Pont Abraham yn Sir Gaerfyrddin prynhawn ma.
Roedd y bws yn cludo myfyrwyr o gampws Rhydaman yng Ngholeg Sir Gar i Lanelli pan ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A483 sy’n cysylltu’r M4 a Rhydaman.
Bu farw gyrrwr y car yn y fan a’r lle. Mae ymchwiliadau’n parhau i geisio cysylltu â’i deulu.
Cafodd 15 o fyfyrwyr ar y bws eu hanafu a’u cludo i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 4.21 brynhawn yma rhwng Pont Abraham a chyffordd Llanedi.
Mae’r ddamwain wedi achosi oedi ar y ffyrdd yn yr ardal ac mae’r A483 rhwng Pont Abraham i Rydaman ar gau.
Dylai unrhyw un a welodd y ddamwain gysylltu a Heddlu Dyfed Powys ar 101.