Tref Llandeilo
Mae pryder yn Llandeilo fod cau’r stryd fawr am dri mis er mwyn gosod pibau yn cael effaith ar fusnesau yn y dref, ar ben effaith y dirwasgiad.

Mae Stryd Rhosmaen ar gau ers dechrau’r flwyddyn tan ddiwedd mis Mawrth tra bod cwmni cyfleustodau Wales & West yn gosod pibau nwy. Mae pedair siop wedi cau yn y stryd ac mae busnesau eraill wedi penderfynu cau dros dro tra bod y gwaith yn parhau.

Un busnes sydd wedi penderfynu gadael y dre a gwerthu dros y we yw siop flodau Pinc ar Stryd Rhosmaen.

“Gwnes i benderfynu cau’r siop cyn bod nhw’n dechrau ar y gwaith ar y stryd ond mae’r ffaith fod yr hewl ar gau heb helpu,” meddai’r perchennog Nia Prytherch.

“Mae rhai siopau wedi penderfynu cau neu adael, am wahanol resymau. Mae’r economi wedi bod yn drychinebus, mae datblygiadau newydd mewn trefi cyfagos fel Caerfyrddin, mae mwy yn prynu dros y we, neu’n aml yn dod i’r siop i edrych cyn prynu dros y we.”

Mae Llandeilo wedi ennill enw da fel tref fach lwyddiannus yn fasnachol ac nid yw Nia Prytherch yn anobeithio am ei dyfodol hi.

“Daw’r dre nôl eto. Mae pobol yn fwy darbodus gyda’u harian ar hyn o bryd ond mae pobol yn hoffi gweld pethe’n digwydd yn y dre, ac mae angen i siopau addasu er mwyn eu denu nhw nôl.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu caniatáu i bobol barcio am ddim ym meysydd parcio Llandeilo am y ddau fis nesaf er mwyn rhoi hwb i fusnesau’r dre.