Peter Black
Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black wedi dweud ei fod o blaid uno Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru y tu allan i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth Golwg360 fod uno’r ddau sefydliad “yn angenrheidiol” ar gyfer y dyfodol, ond ei fod yn credu’n gryf fod angen iddyn nhw gadw eu hannibyniaeth fel cyrff elusennol.

Cafodd ymgynghoriad ei lansio ym mis Mai 2012, a sefydlwyd gweithgor i benderfynu ar y ffordd ymlaen.

Mae’r gweithgor yn gyfuniad o aelodau’r Comisiwn Brenhinol, Llywodraeth Cymru ac undebau llafur.

‘Aros yn annibynnol’

Er bod y gweithgor, ar y cyfan, yn gytûn bod angen i’r ddau gorff uno, dywedodd Peter Black wrth Golwg360 fod angen bod yn ofalus wrth ystyried a ddylai’r ddau gorff ddod o dan ymbarél y Cynulliad.

Dywedodd: “Rwy’n cytuno’n llwyr fod angen uno ac rwy’n deall yn iawn pam, ond mae yna resymau penodol iawn pam y dylai hynny ddigwydd y tu allan i Lywodraeth Cymru.

“Arian yw’r rheswm cyntaf. Yn ail, mae angen cadw annibyniaeth y ddau gorff gan eu bod nhw’n gyrff elusennol.

“Fe allai fynd yn gymhleth os nad ydyn nhw’n aros yn annibynnol oherwydd y ffordd y bydden nhw’n gweithredu.

“Byddai’n sicr o gymorth i’r ddau gorff uno, ond am y rhesymau hynny, rhaid uno y tu allan i’r Llywodraeth.”

‘Pwysau ariannol digynsail’

Wrth lansio’r ymgynghoriad y llynedd, dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis ei fod yn bryderus am y sector amgylchedd hanesyddol “o ystyried y pwysau ariannol digynsail a fydd yn wynebu’r sector yn y blynyddoedd nesaf”.

Dywedodd mewn datganiad: “Mae’r Comisiwn wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru ac rwyf am sicrhau y gallwn adeiladu ar hyn yn ystod cam nesaf y broses.

“Rwyf yn croesawu ymrwymiad y Comisiwn i barhau i weithio gyda ni i sicrhau bod y sector amgylchedd hanesyddol yn cael ei ffurfweddu’n briodol ar gyfer cyflawni fy mlaenoriaethau.

“Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod gennym ni sector sydd wedi ei strwythuro i wneud cyfraniad cydlynol a chynaliadwy i gyflwyno Rhaglen y Llywodraeth a fy Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol.

Mae disgwyl i gynllun busnes ar gyfer unrhyw uno posib gael ei gyflwyno erbyn mis Mawrth.

Ychwanegodd: “Rwyf yn ymwybodol iawn y bydd y posibilrwydd o newid sefydliadol mawr yn gythryblus i staff y ddau sefydliad dan sylw. Byddaf yn sicrhau bod staff yn parhau i gael cyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan yn y broses hon, tra hefyd yn ymgysylltu â’r undebau llafur perthnasol fel mae’r Gweithgor wedi ei wneud hyd yma.

“Bydd y broses hon yn cefnogi fy nod i ddiogelu gwasanaethau a swyddi. Ailadroddaf fy ymrwymiad y dylai swyddi sy’n gysylltiedig â darparu swyddogaethau’r Comisiwn ar hyn o bryd aros yn Aberystwyth.”