Gallai Cymru golli hyd at £1 biliwn o arian Ewrop pe bai cyllideb yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei basio.

Dyna oedd neges Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewrop y Cynulliad, Alun Davies i’r Pwyllgor Menter a Busnes ddoe.

Mae yna bryderon y gallai’r drefn o ddosbarthu arian ymhlith gwledydd yr Undeb Ewropeaidd newid, ac y gallai Cymru fod ymhlith y gwledydd fydd yn colli nawdd fel rhan o’r Polisi Amaeth Cyffredin.

Mae Llywodraeth Prydain wedi galw am ragor o doriadau i’r gyllideb.

Mae amaeth yng Nghymru eisoes wedi derbyn £1.8 biliwn gan Ewrop, sy’n cyfateb i fuddsoddiad gwerth £3.8 biliwn.

Cafodd yr arghymhellion eu trafod yng nghyfarfod cyllideb yr Undeb Ewropeaidd y llynedd ac fe allai’r cynlluniau olygu bod gorllewin Cymru a’r Cymoedd ymhlith yr ardaloedd sy’n cael eu bwrw fwyaf.

Y gobaith yw y bydd modd negydu ar y gyllideb erbyn mis nesaf, fel bod Cymru’n derbyn y lefel bresennol o nawdd ar gyfer rhaglenni yn 2014.

Bydd ymgynghoriad yn dod i ben ar Ebrill 23.

Dywedodd Alun Davies: “Mae gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn parhau’n un o ranbarthau tlotaf Ewrop, ond rhanbarthau fel hon fyddai’n dioddef fwyaf, gan arwain at lai o swyddi a chyfleoedd i dyfu, tra byddai rhanbarthau llewyrchus yn mynd yn fwy cyfoethog.

“Rydym yn cydnabod fod yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol ond rydym, wrth reswm, yn bryderus am y cynigion hyn gan fod arian yr Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i Gymru wrth fynd i’r afael â’r heriau economaidd rydym yn eu hwynebu ac wrth gefnogi rhaglen newidiadau sylweddol ar gyfer amaeth yng Nghymru.

“Rydym yn dymuno gweld arian Ewrop yn cael ei gadw o leiaf ar y lefel bresennol ar gyfer Cronfeydd Strwythurol y dyfodol a’r Polisi Amaeth Cyffredin.

“Rwy’n benderfynol o barhau i wthio achos Cymru gyda Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, gan atgyfnerthu’r angen am gytundeb tecach. Rhaid i orllewin Cymru a’r Cymoedd fod yn flaenoriaeth o ran trafodaethau’r DU am y Cronfeydd Strwythurol.

“Os na fydd cytundeb tecach, byddaf yn gofyn i Lywodraeth y DU ad-dalu’r colledion posib er mwyn lleihau’r perygl i swyddi a thwf yng Nghymru.”

“Mae arian Ewrop yn hanfodol wrth ein helpu ni i wella o’r dirwasgiad ac wrth barhau ein trawsnewidiad yn wlad hyderus, uchelgeisiol ac entrepreneuraidd, gyda diwydiant amaeth sy’n gryf, yn gynaladwy ac yn medru cefnogi cymunedau gwledig bywiog.”