Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod ffermwyr sy’n difa moch daear yn anghyfreithlon yn gallu ychwanegu at ledaenu’r diciâu ymysg gwartheg.

Mae’r adroddiad gan Brifysgolion Bangor, Kingston a Chaint  yn dweud bod tua 10% o’r 14,000 o ffermwyr da byw yng Nghymru wedi lladd moch daear yn y flwyddyn cyn yr astudiaeth.

Cafodd y data ei gasglu wrth siarad gyda ffermwyr mewn sioeau a marchnadoedd yng Nghymru llynedd.

Dywedodd Dr Paul Cross o Brifysgol Bangor y dylai gwneuthurwyr polisi “ystyried” canlyniadau’r adroddiad yn y ddadl ehangach am ddifa moch daear.

“Difa dwys o foch daear yw un dull sy’n cael ei hystyried gan wneuthurwyr polisi mewn ymgais i reoli lledaeniad o’r diciâu ymysg gwartheg.

“Fodd bynnag, nid yw astudiaethau eraill i effeithiau difa moch daear ar achosion o’r diciâu mewn gwartheg wedi ffactora moch daear yn cael eu lladd yn anghyfreithlon, a’i botensial i ledaenu’r clefyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod nhw wedi ymrwymo i gael gwared a’r diciâu, un o’r problemau mwyaf i ffermwyr gwartheg yng Nghymru.

“Does dim un ffordd hawdd o daclo’r clefyd,” meddai’r llefarydd. “Mae’n gofyn am ddull cynaliadwy a hir dymor gan ddefnyddio ystod gynhwysfawr o fesurau gan gynnwys bioddiogelwch llym, profi gwartheg a rheoli symudiadau.

“Y llynedd, cafodd dros 1,400 o foch daear eu brechu yn erbyn y diciâu a byddwn yn ailddechrau’r brechu yn hwyrach eleni.”