Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn tu allan i dafarn yng nghanol dinas Caerdydd neithiwr.

Bu farw’r dyn yn ystod digwyddiad tu allan i dafarn O’Neill’s yn Heol y Santes Fair  am 11yh nos Sul.

Dywed yr heddlu bod teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth ond nad ydyn nhw wedi ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Mae wyth o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddi-enw ar 0800 555 111.