Kyle Vaughan
Mae Heddlu Gwent wedi arestio bachgen 15 oed mewn perthynas â diflaniad dyn 24 oed.
Cafodd y bachgen o Abercarn ei arestio ddoe ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Fe yw’r pedwerydd person i gael ei arestio mewn cysylltiad â diflaniad Kyle Vaughan o ardal Trecelyn.
Cafodd dyn 27 oed gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ddydd Iau. Mae’r heddlu wedi cael 24 awr ychwanegol i’w holi.
Roedd dyn 21 oed wedi cael ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr a chafodd dyn 62 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth.
Mae Heddlu Gwent wedi gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.