Mae elusen blant fwya’ gwledydd Prydain yn galw ar awdurdodau a llywodraethau i wneud mwy i amddiffyn pobl ifanc rhag cael eu masnachu yn y wlad ar gyfer rhyw.

Yn ystod mis Medi 2012 cynhaliwyd arolwg o’r plant hynny roedd gwasanaethau camfanteisio’n rhywiol ar blant y mae Barnardo’s yn gweithio gyda nhw.

Datgelodd hynny fod nifer y bobl ifanc roedd yr elusen yn gwybod a oedd yn cael eu masnachu yn y wlad wedi codi 84% – o  76 i 140 o blant.

Cynnydd yng Nghymru  

Datgelodd yr arolwg, yng Nghymru, fod nifer y plant sy’n dioddef camfanteisio rhywiol ac sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol ac sy’n cael eu helpu gan Barnardo’s Cymru wedi codi 377%, o 22 i 83.

“Yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith partneriaeth agosach gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol wedi arwain at gynnydd o ran adnabod y risg ac achosion o blant yn dioddef camfanteisio rhywiol,” meddai Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru.

“Mae angen i ni barhau â’r patrwm o gyfeirio plant at ein gwasanaeth, a gweld awdurdodau heddlu Cymru yn defnyddio eu hystod lawn o dactegau gorfodi’r gyfraith ac ymyrryd i arestio a rhwystro’r rheini sy’n cam-drin, ac amddiffyn plant rhag y cam-drin erchyll hwn. 

“Mae’r broblem hon wedi bod yn gudd yn rhy hir,” meddai.

“Rydym yn galw ar y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru i fynd i’r afael ag achosion o fasnachu plant yn ddomestig er mwyn camfanteisio’n rhywiol arnynt, drwy sicrhau bod yr heddlu yn cyflawni eu cyfrifoldebau i amddiffyn ac i gefnogi’r grŵp agored i niwed hwn.”