Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gofyn am gymorth wrth ymchwilio i achos o lygru un o’r nentydd sy’n bwydo’r Afon Taf yn Sir Gâr.
Fe gafodd swyddogion yr Asiantaeth eu galw i ardal Hendy-gwyn-ar-Daf ddoe, wedi i rywun riportio fod slyri wedi llygru Nant Cwmfelinboeth.
Mae timau’r Asiantaeth yn parhau i weithio yn yr ardal, gan eu bod yn disgwyl i’r llygredd hwn gael cryn effaith ar ansawdd y dwr ac ar fywyd y pysgod.
“Mae tipyn go lew o slyri wedi mynd i’r afon,” meddai llefarydd, “ac rydan ni’n trio darganfod tarddiad y llygredd. Rydan ni hefyd yn ceisio rhagweld pa effaith y bydd yn ei gael.
“Fe fydd yr afon yn debygol o fod yn lliw rhyfedd am rai dyddiau, ac mae’n bosib y bydd ewyn ar wyneb y dwr hefyd, wrth i’r slyri ddechrau torri i lawr.”
Os oes unrhyw un yn gwybodaeth sut y daeth y slyri i’r dwr, fe ddylen nhw ffonio llinell arbennig yr Asiantaeth ar y rhif 0800 807060.