Mae disgwyl i dywydd oerdaro’r mwyafrif o Brydain dros y penwythnos, gyda phosibilrwydd o rew ac eira hefyd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn ar gyfer nifer o ardaloedd, gan gynnwys canolbarth a de Cymru.  Maen nhw’n rhybuddio y bydd glaw, eirlaw ac eira o brynhawn Sadwrn ymlaen, a gall tymhereddau isel achosi peryglon rhew ar y ffyrdd.

Gall eira ddisgyn erbyn dydd Sul, yn bennaf dros y de, ond mae disgwyl i’r gwaethaf ddisgyn ar fannau uwch.