Mae Eos yn ystyried cynnig gan y BBC i ddefnyddio canolwr i ddatrys yr anghydfod dros dâl teg i gerddorion Cymraeg.
Ers pythefnos mae Eos wedi diddymu hawl y BBC i chwarae caneuon Cymraeg ar Radio Cymru, a bu’r ddwy ochr yn trafod gwerth y caneuon ers fis Hydref y llynedd.
Mewn trafodaethau pellach heddiw mae Eos wedi cytuno i ganfod barn eu haelodau ar y syniad o ddefnyddio canolwr i ddatrys yr anghydfod.
Yn ôl llefarydd y BBC fe fyddai’r Gorfforaeth yn talu am ganolwr annibynnol a niwtral: “Byddai’n rhaid I’r ddwy ochr gytuno ar bwy fyddai’r canolwr,” meddai’r llefarydd.
Mentrau Iaith Cymru yn pwyso ar y BBC
“Mae’n bwysig iawn bod y BBC yn Llundain yn derbyn cynnig diweddaraf Eos er lles ein cerddorion Cymraeg ac er lles Radio Cymru a’i gwrandawyr.”
Dyna neges Mentrau Iaith Cymru wrth i’r anghydfod rhwng Eos a’r BBC barhau i lusgo yn ei flaen am bythefnos.
Roedd Eos wedi rhoi tan ddoe i’r BBC ymateb i’w cynnig diweddara’, sy’ heb ei ddatgelu’n gyhoeddus.
Ond nid oes yr un o’r ddwy ochr yn fodlon dweud beth, os unrhywbeth, fu ymateb y BBC i’r cynnig, ac mae’r sefyllfa’n parhau heb ei datrys.
Mae golwg360 ar ddeall fod Eos wedi gofyn am tua £1 miliwn y flwyddyn gan y BBC am chwarae cerddoriaeth Cymraeg eu tua 300 o aelodau yn wreiddiol, ond eu bod wedi gostwng y swm hwnnw yn sylweddol mewn trafodaethau ym Mangor ddydd Mawrth.
Mae’r BBC ar y llaw arall wedi cynnig treblu’r 52 ceiniog y funud roedd aelodau Eos yn ei dderbyn gan y PRS y llynedd, a fyddai’n cyfateb i dâl o tua £330,000 y flwyddyn am waith aelodau Eos.
‘Cerddorion yn haeddu tâl teg’
Mae Plaid Cymru, Cylch yr Iaith, Dyfodol yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, y beirdd a Gruff Rhys wedi cefnogi safiad Eos, a Mentrau Iaith Cymru yw’r diweddaraf i bwyso ar y BBC i daro bargen pronto.
Meddai’r Mentrau mewn datganiad: “Mae ein cerddorion Cymraeg yn haeddu tâl teg am eu gwaith, ac mae gwrandawyr Radio Cymru yn haeddu gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n amlwg fod pobl Cymru yn gefnogol iawn i Eos a’n cerddorion Cymraeg, ac yn yr un modd mae Radio Cymru’n chwarae rôl allweddol ym mywydau Cymraeg pobl Cymru fel yr unig orsaf Radio cenedlaethol sy’n darlledu’n uniaith Gymraeg.”
Colli gwrandawyr?
Ychwanegodd llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru: “Mae’n peri gofid i ystyried faint o wrandawyr sydd o bosib wedi troi at orsafoedd radio eraill tra bod diffyg cerddoriaeth gyfoes ar gael iddyn nhw ar Radio Cymru. Tra bod yr anghydfod rhwng Eos a’r BBC yn parhau, mae pob diwrnod sy’n mynd heibio yn ychwanegu at y niwed i’n hunig orsaf radio Cymraeg, ac yn anuniongyrchol i ddyfodol perfformwyr, cyfranwyr, beirdd ac actorion Cymru.”