Clawr Y Selar Ebrill 2011
Bydd cylchgrawn pop Cymraeg Y Selar yn cynnal noson wobrwyo i’r Sîn Roc Gymraeg  (SRG) yn Hendre Hall ar gyfrion dinas Bangor ar nos Sadwrn yr ail o Fawrth.

Daw’r newyddion ar adeg digon digalon i rocars y Gymru Gymraeg, gyda’r BBC ac Eos yn dadlau dros werth eu caneuon a Radio Cymru yn gorfod chwarae cerddoriaeth glasurol, emynau a chaneuon Saesneg.

Bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana, Gwenno a Sŵnami yn perfformio er mwyn  dathlu’r flwyddyn a fu i’r SRG, ac mae’r trefnwyr wedi addo mwy o enwau i ddilyn.

Er bod Y Selar yn cynnal pleidlais i ddewis enillwyr gwobrau’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ers rhai blynyddoedd, eleni fydd y tro cyntaf iddo gynnal noson wobrwyo.

“Rydan ni’n gweld y noson fel parti i glymu pen y mwdwl ar y flwyddyn a fu, ac i lansio’r flwyddyn gyffrous i ddod” meddai un o drefnwyr y noson, Owain Schiavone.

“Mae tipyn o feddwl wedi mynd i’r arlwy gan ein bod ni’n awyddus i lwyfannu artistiaid sydd wedi bod yn weithgar ac wedi rhyddhau cynnyrch yn 2012. Wedi dweud hynny, mae’r ffaith eu bod nhw i gyd yn artistiaid gwych fydd yn sicrhau noson gofiadwy yn ffactor bwysig hefyd!”

Mae’r bleidlais gyhoeddus wedi bod ar agor ers mis Rhagfyr, ac mae’r Selar yn annog cymaint â phosib i fwrw eu pleidlais dros yr enillwyr – http://apps.facebook.com/gwobrau-selar/

Cyhoeddwyd hefyd bod tocynnau’r noson bellach ar werth o wefan Sadwrn.com – bydd rhain yn £6 ymlaen llaw, ond yn £8 ar y drws.

Eleni hefyd bydd enillwyr dau o’r categorïau, sef ‘Band Byw Gorau’ a ‘Cân Orau’ yn derbyn £1000 o wobr gan Cân i Gymru / S4C.