Prif Weithredwr Cyngor Caerffili, Anthony O’Sullivan
Mae Ceidwadwyr Cymru yn galw am adolygiad o gyflogau sy’n cael eu talu i benaethiaid awdurdodau lleol Cymru.

Yn ôl Janet Finch-Saunders mae rhai o gyflogau’r penaethiaid yn “dod â dŵr i’r llygaid” ac mae wedi ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol yn y Cynulliad i ofyn am adolygiad brys.

Mae cyngor llawn Cyngor Caerffili yn cwrdd wythnos nesaf i drafod y codiad cyflog a gafodd ei roi i Brif Weithredwr y cyngor heb fod mwyafrif y cynghorwyr yn ymwybodol o’r penderfyniad.

Mae cyflog Prif Weithredwr Cyngor Caerffili, Anthony O’Sullivan, yn codi o £120,000 i £147,000 ac wedi ei ôl-ddyddio i fis Awst, ac mae nifer o uwch swyddogion eraill wedi cael codiad cyflog hefyd.

Mae’r grŵp Llafur sy’n rheoli’r cyngor wedi ymddiheuro am y penderfyniad yn dilyn pwysau gan undebau a gwrthbleidiau, ond hyd yma mae’r codiadau cyflog yn dal i sefyll.

‘Godro’r sustem’

“Mae’n warthus fod rhai o uwch-swyddogion cynghorau Cymru yn cael codiadau cyflog anferthol mewn adeg o gyni,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol.

“Mae’n annheg fod fat cats neuadd y dref yn parhau i odro’r sustem tra bod gwasanaethau rheng-flaen dan bwysau sylweddol.

“Cafodd cyflogau gormodol eu rhoi i brif weithredwyr yng Nghyngor Caerffili mewn cyfarfod cudd heb yn wybod i gynghorwyr eraill.

“Mae’n hen bryd cynnal adolygiad agored a gonest i gyflogau rheolwyr.

“Mae’r esgid yn gwasgu i deuluoedd a dylai’r sawl ar frig y gyflogres fod yn gwneud eu cyfraniad nhw i wneud yn siŵr fod awdurdodau yn gwario’n synhwyrol,” meddai.