Mae gweithwyr y DVLA yn streicio heddiw am 24 awr oherwydd anghydfod dros y bwriad i gau swyddfeydd a diswyddo.
Bydd aelodau undeb y PCS yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl yr undeb mi fydd cau swyddfeydd yn dod â’r gwasanaeth wyneb-yn-wyneb “hynod werthfawr” i ben.
Anfonodd yr undeb ddeiseb ag arni 72,000 at yr Adran Drafnidiaeth – y ddeiseb fwya’ erioed yn hanes yr undeb, meddan nhw.
Meddai llefarydd: “Cafodd ein deiseb ei harwyddo gan y cyhoedd, gwerthwyr ceir, cynrychiolwyr ffederasiynau moduro a chwmnïau bysus a loris cludiant, a chynrychiolwyr clybiau hen geir hanesyddol.
“Rydan ni’n bryderus ynghylch y diffyg ymwybyddiaeth bod y swyddfeydd yn mynd i gau ac hefyd y ffaith bod ymgynghoriad wedi bod.”