Yn ôl Plaid Cymru fe allai miloedd o bobl ledled Cymru’n wynebu derbyn y budd-daliadau anghywir neu ddim budd-daliadau o gwbl, wrth i’r Adran dros Waith a Phensiynau symud y rhan fwyaf o’i system hawlio ar-lein yn 2013.
Bydd Cymru’n dioddef fwy nag unman yn sgil Credyd Cynhwysol oherwydd y nifer uchel o hawlyddion budd-daliadau a chysylltiadau rhyngrwyd gwan ledled y wlad, meddai Hywel Williams Aelod Seneddol Arfon.
“Mae Gweinidogion yn honni y bydd y Credyd Cynhwysol yn cymryd lle model sy’n ‘ddrud ac wedi dyddio’. Y gwir yw y bydd yn ymyleiddio rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas,” meddai Mr Williams.
Galw am wersi defnyddio cyfrifiadur i bobol
“Mae’n debyg y bydd Cymru’n dioddef yn fwy nag unman arall. Mae ffigyrau ONS [Swyddfa Ystadegau] yn dangos fod tua 20% o oedolion Cymru erioed wedi defnyddio’r we, ac mae cysylltiadau band-llydan mewn sawl man yn wan ac annibynadwy.
“Os yw’r Llywodraeth yn mynnu cyflwyno’r system Credyd Cynhwysol, mae’n hollbwysig fod mynediad i’r We i bawb yn cael ei sicrhau fel y gall pobl hawlio taliadau hanfodol mor gyflym a phosib gyda chyn lleied o gamgymeriadau a phosib.
“Rwy’n galw am Rwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol, dosbarthiadau cyfrifadurol ar gyfer oedolion, gwarchod gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnig mynediad am ddim i’r we, a gofal arbennig i bobl ȃ phroblemau symudedd a’r tua 5m o bobl dros 65 ledled y Deyrnas Unedig sydd byth yn defnyddio’r We fydd, yn anochel, yn dioddef anhawsterau mawr dan y system newydd.”