Roedd y ffordd y bihafiodd yr heddlu yn ystod streic y glöwyr yn 1984-84 yn “warthus” yn ôl cyn-heddwas sydd wedi siarad allan am y tro cynta’ heddiw.
Mewn cyfweliad ym mhapur newydd The Scotsman, mae’r heddwas a fu’n gwasanaethu gyda lluoedd Lothian and Borders, a Glasgow, yn mynd cyn belled â dweud fod heddweision yn cael hwyl yn cam-drin ac yn gwawdio glöwyr ar y llinell biced.
Roedd heddweision yn arfer taflu ceiniogau at löwyr oedd yn picedu ac yn protestio, meddai, yn ogystal â dweud pethau er mwyn eu bychanu a’u cythruddo.
At hynny, meddai’r heddwas sy’n dymuno aros yn ddienw, roedd plismyn o’r Met yn Llundain a fyddai’n cael eu cario i ogledd Lloegr neu i’r Alban i geisio rheoli torfeydd, yn “mwynhau cwffas iawn” ac yn ymddwyn fel “aelodau o giang”.
“Roedd yna löwyr yn sefyll yn hollol gyfreithlon ar linell biced, ond fe fydden nhw’n cael eu gwthio gan heddweision, ac wedyn yn cael eu harestio am amharu ar yr heddwch,” meddai’r cyn-arolygydd.
“Roedd rhaid o’r pethau oedd yn digwydd mor warthus, ac fe ddywedais i ar y pryd fy mod i’n gwrthwynebu’n llwyr be’ oedd yn digwydd.
“Dw i eisiau gweld adolygiad o’r tactegau plismona gafodd eu defnyddio.”
Mae Comisiwn Annibynol Cwynion yr Heddlu eisoes yn ymchwilio i’r honiadau fod datganiadau gan dystion a swyddogion wedi cael eu newid yn dilyn ymladd ar safle Orgreave yn Ne Swydd Efrog yn 1984.