Mae Aelod Seneddol Torïaidd yn “poeni” fod addysg ryw mewn ysgolion yn rhoi’r argraff nad perthynas rhwng dyn a dynes ydi’r “norm”.
Mewn cyfweliad sy’n cael ei gario ym mhapus y Wales on Sunday heddiw, mae David Davies, AS Mynwy, yn dweud ei fod yn gwybod y bydd ei sylwadau yn tramgwyddo rhai pobol.
“Mae gen i dri o blant,” meddai, “ac rwy’n gwybod fod nifer o bobol sy’n rhieni yn poeni am hyn.
“Rwy’n casau dweud hyn, a sa’ i eisie codi trwbwl na thramgwyddo neb, ond rwy’n gweld rhyw heterorywiol fel y norm.
“Rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud fod y mwyafrif sylweddol o bobol ddim yn hoyw.
“Rwy’ i jyst yn pryderu,” meddai wedyn yn y cyfweliad, “os yw plant yn cael eu dysgu mai nid perthynas rhwng gwr a gwraig yw’r norm… ydyn ni’n mynd i gael sefyllfa lle mae athrawon yn dweud ‘dewiswch chi’ (rhwng perthynas heterorywiol a hoyw)… a’i bod hi’n berffaith normal i fod eisie gwneud y ddau beth.”