Mae Radio Cymru wedi ymddiheuro deirgwaith y bore yma am golli cysylltiad â stiwdio Caerfyrddin.

Rhwng 10.30 a 11.15 heddiw, fe gollwyd rhaglen fyw Richard Rees dair gwaith, ac fe fu’n rhaid chwarae cerddoriaeth er mwyn llenwi bwlch.

“Rydan ni’n cael trafferthion yn cysylltu gyda stiwdio Richard Rees,” meddai’r cyhoeddwr-rhwng-rhaglenni o Gaerdydd, cyn chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd.

Cyn hynny, roedd y troellwr disgiau, Richard Rees, wedi cyhoeddi ar yr awyr fod yna rai gwrandawyr “mewn rhai ardaloedd” yn cael trafferth, gan fod y signal “yn mynd a dod”.

Pan ddaeth yn ôl ar yr awyr wedi’r eildro am 11.10, meddai Richard Rees:

“Gobeithio na fydd yn effeithio’n ormodol ar y rhaglen rhwng nawr a hanner dydd.”

Ond o fewn pum munud wedyn, roedd y rhaglen wedi’i cholli am y trydydd tro o fewn tri chwarter awr.