Mae’r dyn a laddwyd mewn damwain ffordd ar yr M4 ddydd Mercher, wedi ei adnabod. Roedd y gwr yn 44 mlwydd oed, ac yn dod o ardal Castell Nedd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng cyffyrdd 45 a 46, i’r gogledd o Abertawe, ychydig wedi hanner nos, ddydd Mercher, Rhagfyr 19.

Mae Heddlu De Cymru yn dal i apelio am dystion i’r digwyddiad, pan fu bws 52-sedd mewn gwrthdrawiad gyda’r gwr oedd yn cerdded ar y ffordd honno.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, ffonio Uned Plismona Ffyrdd yr Heddlu ar 101, neu gysylltu â Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.