Llys y Goron Caerdydd
Mae mam o Gaerdydd wedi ei chael yn euog o lofruddio ei mab saith oed ar ôl ei guro i farwolaeth am iddo fethu a dysgu’r Koran.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Sara Ege, 33, wedi trin ei mab Yaseen fel “ci”, gan ei guro yn rheolaidd gyda ffon.

Bu farw Yaseen ym mis Gorffennaf 2010 o anafiadau mewnol ar ôl cael ei guro dros gyfnod o dri mis gan ei fam. Ar ôl ei guro i farwolaeth roedd wedi ceisio llosgi ei gorff er mwyn cuddio’r dystiolaeth.

Y gred oedd ei fod wedi marw yn y tan yn eu cartref ym Mhontcanna, Caerdydd ond fe ddarganfuwyd yn fuan wedyn ei fod wedi marw cyn i’r tan gael ei gynnau.

Roedd Ege wedi cyhuddo ei  gwr o ladd Yaseen.

Ond cafwyd Yousef Ege, 38, yn ddieuog heddiw o ganiatau marwolaeth ei fab trwy fethu ei warchod.

Cafwyd Ege yn euog o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd yn cael ei dedfrydu yn y flwyddyn newydd.