Mae disgwyl y bydd Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi gorwario £70m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, ond fe allai’r diffyg fod cymaint â £131m.

Dyna medd Swyddfa Archwilio Cymru, sydd wedi rhyddhau adroddiad ar ymdrechion Byrddau Iechyd Cymru i fynd i’r afael â gorwariant

Mewn llythyr at Bwyllgor Cyfrifon y Cynulliad, rhybuddiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, fod “cyrff y GIG yn wynebu her fawr yn ystod y chwe mis nesaf er mwyn rheoli eu gor-wario.”

“Yn dilyn dwy flynedd sydd wedi bod â chanolbwynt trwm ar arbedion, mae hi’n anodd dod o hyd i’r arbedion a’r meysydd y gellir arbed ynddyn nhw,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol.

Dywedodd fod y rhan fwyaf o Fyrddau Iechyd wedi bwriadu torri ar y nifer o staff, ond bod y nifer mewn gwirionedd wedi cynyddu ychydig. Dangosodd adroddiad y Swyddfa Archwilio fod cyrff y GIG yn eu crynswth wedi gorwario £33m ar gyflogau rhwng Ebrill a diwedd Medi eleni.

Yn ei lythyr dywedodd Huw Vaughan Thomas fod “y GIG mewn sefyllfa ariannol well na’r un adeg llynedd” ond ei bod hi’n glir nad yw eu hymdrechion i arbed arian yn ddigonol.

‘Ar drothwy dinistr ariannol’ medd y Ceidwadwyr

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr wedi dweud fod y ffigurau yn “cadarnhau fod GIG Cymru ar drothwy dinistr ariannol.”

“Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn gwrth-ddweud addewid diweddar Prif Weithredwr y GIG y byddai’r byrddau iechyd yn gorffen y flwyddyn ariannol gyda llechen lân,” meddai Darren Millar.

“Mae’r sefyllfa nawr yn amhosib i’w rheoli.

“Yn hytrach na thorri cyllid a gwaredu â gwasanaethau dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi blaenoriaeth haeddiannol i’r GIG a darparu’r buddsoddiad sydd ei angen arno.”

‘Gwneud byrddau iechyd yn atebol i bwyllgor iechyd y Cynulliad’

Mae Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi dweud fod yr argyfwng ariannol wedi bod yn cynyddu ers peth amser, a bod “toriadau’r Llywodraeth Glymblaid” bellach i’w teimlo yn GIG Cymru.

“Mae angen gwella atebolrwydd ariannol o fewn y gwasanaeth iechyd,” meddai Elin Jones.

“Un cam syml y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ei gymryd yw gwneud byrddau iechyd yn atebol yn uniongyrchol am eu gwariant i bwyllgor iechyd y Cynulliad.”

‘Cam-reoli’ medd Kirsty Williams

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ei bod hi’n rhy hwyr i “brynu llai o glipiau papur” er mwyn helpu’r byrddau iechyd i reoli gor-wario.

“Nid wyf yn sicr fod David Sissling [Prif Weithredwr GIG Cymru] a Lesley Griffiths yn sylweddoli pa mor beryglus yw’r sefyllfa,” honnodd Kirsty Williams.

“Mae yna ddiffyg cysylltiad rhwng yr hyn ddywed Swyddfa Archwilio Cymru a’r hyn ddywedodd pennaeth y GIG wythnos ddiwethaf.”

“Rwy’n pryderu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol y bydd cleifion ar draws Cymru yn gweld canlyniadau camreolaeth Llafur o’n gwasanaeth iechyd ni.”