Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb ynglŷn â chyllideb y Llywodraeth a fydd yn creu miloedd o brentisiaethau i bobl ifainc.

Mewn datganiad ar y cyd, cyhoeddwyd y bydd £20 miliwn yn ychwanegol yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb ddrafft, sydd i’w thrafod ddydd Mawrth, ar gyfer prentisiaethau er mwyn rhoi cymorth i bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed, a gall y swm yna gynyddu yn dilyn buddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gyda Phlaid Cymru ynglŷn â pha gynlluniau fydd yn cael cymorth.

Yn ogystal fe fydd £10 miliwn yn cael ei roi i greu parc gwyddoniaeth dan arweiniad Prifysgol Bangor ynghyd a Phrifysgol Aberystwyth er mwyn cefnogi gwaith ymchwil ym maes gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a pheirianneg.

Y gobaith yw y bydd y parc hefyd yn denu buddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd a’r sector preifat.

Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, mai ei blaenoriaeth yw hybu’r economi a helpu pobl i ddod o hyd i waith.

“Mae Plaid Cymru yn falch iawn i gyhoeddi y bydd miloedd o brentisiaethau a swyddi  yn cael eu creu yn sgil ein cytundeb gyda’r llywodraeth heddiw.

“Mae diweithdra ymhlith pobl ifainc mewn sefyllfa argyfyngus ac wedi cynyddu’n gyson dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Fe fydd y camau cadarnhaol hyn yn helpu i adfer ein heconomi a rhoi’r sgiliau sydd ei angen i bobl ifainc ar gyfer dyfodol llewyrchus.”

‘Cynyddu’r bwlch ariannol rhwng Cymru a Lloegr’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams na fyddai ei phlaid yn gallu cefnogi cyllideb nad oedd yn ceisio llenwi’r bwlch ariannol rhwng Cymru a Lloegr.

“Roedd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn bositif ac yn adeiladol ond nid oedd Llafur yn gallu cytuno ar gynnydd ariannol sylweddol  ar gyfer plant tlotaf ein cymdeithas. Mae’r gyllideb hon yn golygu y bydd y bwlch rhwng plant yn Lloegr a Chymru yn cynyddu ac rwy’n bryderus iawn y bydd Cymru ar ei hol hi.”

Dywedodd hefyd ei bod wedi ei chalonogi bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun i ganiatáu i gleifion yng Nghymru gael mynediad i driniaethau sydd ddim fel arfer ar gael drwy’r GIG.