Leighton Andrews
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd gan Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), y gallai ei phenderfyniad i ailraddio papurau TGAU Saesneg achosi “niwed difrifol” i’r cymhwyster, yn ôl adroddiadau.

Roedd tua 2,386 o ddisgyblion yng Nghymru wedi cael gradd well ar ôl i arholiad TGAU Saesneg CBAC gael ei ailraddio.

Roedd Leighton Andrews wedi beirniadu’r newid yn ffiniau’r graddau i fyrddau arholi yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a arweiniodd at ostyngiad o 3.9% yn nifer y graddau C yng Nghymru eleni. O ganlyniad fe benderfynodd alw am ail-raddio papurau disgyblion Cymru.

Roedd y Gweinidog Addysg wedi bwrw ’mlaen gyda’r ailraddio, er gwaethaf gwrthwynebiad gan CBAC. Yn ôl BBC Cymru, roedd Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC, wedi anfon e-bost at Leighton Andrews yn rhybuddio yn erbyn ailraddio i Gymru yn unig gan ddweud y byddai’n “niweidio’n ddifrifol cyfanrwydd y cymhwyster”.

Roedd Gareth Pierce hefyd yn bryderus y gallai arwain at ganolfannau yn Lloegr yn cyflwyno heriau cyfreithiol yn erbyn CBAC.

Mae disgwyl i Leighton Andrews ymddangos gerbron pwyllgor yn y Cynulliad  i ateb cwestiynau ynglŷn â’r mater heddiw.