Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi condemnio bwriad Ysgrifennydd Iechyd Cymru i gynnal arolwg o’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.

Hynny’n dilyn cyhoeddiad ar ddiwedd dadl yr oedd y blaid wedi ei galw yn y Cynulliad ddoe.

Fe ddywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths y bydd hi’n cynnal arolwg o berfformiad y gwasanaeth, o’i sefyllfa ariannol a’r berthynas gyda’r Byrddau Iechyd sy’n ei gyllido.

Ond, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, dyw hynny ddim yn ddigon da ac mae wedi cyhuddo Lesley Griffiths o fethu â mynd i’r afael â phroblemau’r Gwasanaeth iechyd.

Kirsty Williams yn beirniadu

“Hwn fydd y nawfed arolwg mewn chwe blynedd,” meddai Kirsty Williams. “Does gen i ddim hyder y bydd y Gweinidog Iechyd yn gallu sicrhau y bydd pobol Cymru’n cael gwasanaeth ambiwlans sy’n cwrdd ag anghenion y boblogaeth.

“Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn gwneud gwaith anodd iawn ac mae hynny’n cael ei wneud yn anos gan flerwch y ffordd wael y mae Llafur yn trin ein gwasanaeth iechyd.”

Mae’r Gwasanaeth wedi cael ei feirniadu am fethu â chyrraedd targedau tros y misoedd diwetha’ ac roedd yna helynt y mis diwetha’ am nad oedd wedi cael cyllideb bendant ar gyfer y flwyddyn gan y Byrddau Iechyd.